
2003 Rhif 522 (Cy.72)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud 5 Mawrth 2003
Yn dod i rym 6 Ebrill 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a pharagraffau 1(1) a 5(1), (2) a (4) o Atodlen 4 iddi, a rheiny'n bwerau sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enw a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2003.
Cymhwyso a Dehongli
2 

(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992.
(3) Bydd i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr â'r termau Saesneg cyfatebol yn y prif Reoliadau.
Diwygio'r Prif Reoliadau
3 
Mae'r Prif Reoliadau yn cael eu diwygio fel a ddarperir yn Rheoliad 4.
Atafaelu enillion: credydau treth
4 
Yn Rheoliad 32(1) (dehongli etc) o'r Prif Reoliadau, yn y diffiniad o “earnings”, mewnosodwch ar ôl is-baragraff (v)—“
(vi) tax credits within the meaning of the Tax Credits Act 2002.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Mawrth 2003