
2003 Rhif 481 (Cy.67)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003
Wedi'i wneud 3 Mawrth 2003
Yn dod i rym 4 Mawrth 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a hwythau'n gweithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7, 8 ac 83 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cymhwyso, cychwyn a dod i ben
1 
Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003; mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru, yn dod i rym ar 4 Mawrth 2003 a bydd ei effaith yn dod i ben ar 1 Awst 2003.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “anifeiliaid” (“animals”) yw gwartheg (ond heb gynnwys buail a iacod), ceirw, geifr, defaid a moch;
 mae i “ardal i anifeiliaid” (“animal area”) yr ystyr a roddir iddo yn erthygl 4(3)(c);
 ystyr “crynhoad anifeiliaid” (“animal gathering”) yw achlysur pan gaiff anifeiliaid eu crynhoi mewn un lle sef—
(a) gwerthiant,
(b) sioe neu arddangosfa,
(c) llwyth o anifeiliaid i'w traddodi ymlaen i'w cigydda o fewn Prydain Fawr, neu
(ch) llwyth o anifeiliaid i'w traddodi ymlaen o fewn Prydain Fawr i'w pesgi neu i'w gorffen,ac mae'n cynnwys derbyn neu gadw'r anifeiliaid hynny dros dro;
 mae “cyfarpar” (“equipment”) yn cynnwys llociau a chlwydi; ac
 ystyr “diheintydd a gymeradwywyd” (“approved disinfectant”) yw diheintydd a gymeradwywyd o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978  sydd o'r cryfder sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwnnw ar gyfer “Gorchmynion Cyffredinol”.
Eithriadau
3 
Nid yw darpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gymwys os—
(a) yr un person sy'n berchen ar yr holl anifeiliaid mewn crynhoad anifeiliaid ac os yr un ceidwad sydd ganddynt, a
(b) bod yr anifeiliaid i'w crynhoi ar safle y mae perchennog yr anifeiliaid yn berchen arno neu y mae'n ei feddiannu.
Defnyddio safle ar gyfer crynoadau anifeiliaid
4 

(1) Mae gwaharddiad ar ddefnyddio safle gan unrhyw berson ar gyfer crynhoi anifeiliaid arno onid yw'r safle hwnnw wedi'i drwyddedu at y diben hwnnw gan arolygydd milfeddygol.
(2) Rhaid i drwydded o dan yr erthygl hon—
(a) bod yn ysgrifenedig,
(b) bod yn un y gellir ei diwygio, ei hatal dros dro, neu ei dirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan arolygydd milfeddygol, a
(c) bod yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau ag y barna'r arolygydd milfeddygol fod eu hangen i atal cyflwyno clefyd i'r safle trwyddedig neu i atal lledaenu clefyd o fewn y safle trwyddedig neu'r tu allan iddo.
(3) Rhaid i drwydded bennu—
(a) enw'r trwyddedai,
(b) y safle lle y caniateir crynhoi anifeiliaid, ac
(c) yr ardal y caniateir i'r anifeiliaid fynd arni (“yr ardal i anifeiliaid”).
Cyfyngiad o 27 o ddiwrnodau ar grynhoi anifeiliaid mewn un lle
5 
Mae gwaharddiad ar bob crynhoad anifeiliaid ar safle lle y cafodd anifeiliaid eu cadw a hynny hyd nes bydd 27 o ddiwrnodau wedi mynd heibio ers y diwrnod—
(a) y gadawodd yr anifail olaf y safle hwnnw, a
(b) ar ôl i'r anifail olaf adael y safle, pan fydd yr holl gyfarpar a ddefnyddiwyd gan yr anifeiliaid wedi ei lanhau fel nad oes unrhyw arwydd weledol ei fod wedi'i halogi.
Esemptiad i'r cyfnod cyfyngiad o 27 o ddiwrnodau ar gyfer safle ag ardal i anifeiliaid sydd wedi'i phalmantu
6 

(1) Nid yw'r cyfyngiadau yn erthygl 5 yn gymwys os—
(a) oes ar y safle ardal i anifeiliaid ac iddi arwyneb o sement, concrid, asffalt neu ddeunydd caled anhydrin arall y gellir ei lanhau a'i ddiheintio'n effeithiol, a
(b) os yw'r ardal i anifeiliaid wedi'i glanhau a'i diheintio, a bod unrhyw ddeunydd gwastraff ar yr ardal i'r anifeiliaid wedi cael ei symud a'i waredu, yn unol â'r erthygl hon.
(2) O ran y gwaith glanhau a diheintio—
(a) rhaid peidio â chychwyn arno hyd nes bydd yr holl anifeiliaid wedi'u symud o'r rhan o'r ardal i anifeiliaid a lanheir ac a ddiheintir, a
(b) rhaid ei orffen ar ôl i'r anifail olaf adael y safle trwyddedig.
(3) Rhaid gwaredu o'r ardal i anifeiliaid yr holl borthiant y daeth yr anifeiliaid i gyffyrddiad ag ef, pob sarn (llaesodr), yr holl garthion, pob deunydd arall sy'n tarddu o anifeiliaid a'r holl halogion eraill —
(a) a'u distrywio,
(b) eu trin fel nad oes perygl o drosglwyddo clefyd, neu
(c) eu gwaredu fel nad yw anifeiliaid yn gallu mynd atynt.
(4) Mae'n rhaid ysgubo neu grafu'n lân bob rhan o'r ardal i anifeiliaid (yn cynnwys unrhyw gyfarpar), a'i glanhau drwy olchi a'i diheintio â diheintydd a gymeradwywyd.
(5) Yn dilyn y tro olaf y cafodd yr ardal i anifeiliaid ei glanhau a'i diheintio yn unol â'r erthygl hon, os bydd yn cael ei baeddu â charthion anifeiliaid neu ddeunydd arall sy'n deillio o anifeiliaid, yna mae'n rhaid glanhau a diheintio'r ardal i anifeiliaid neu'r rhannau hynny ohoni sydd wedi'u baeddu yn y modd hwn, a rhaid gwaredu unrhyw ddeunydd gwastraff, yn unol â'r erthygl hon, cyn crynhoi anifeiliaid yno.
Y dyletswyddau sydd ar bersonau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid
7 
Pan gaiff anifeiliaid eu crynhoi mewn un lle (ac eithrio at ddiben sioe neu arddangosfa) mae darpariaethau'r Atodlen (gofynion mewn cysylltiad â chrynhoad anifeiliaid) yn effeithiol.
Cyfyngiadau yn sgil crynhoad anifeiliaid
8 

(1) Mae darpariaethau'r erthygl hon yn gymwys unwaith y bydd yr anifail olaf mewn crynhoad anifeiliaid wedi gadael y safle trwyddedig.
(2) Ni chaiff unrhyw berson ganiatáu i anifeiliaid fynd ar y safle trwyddedig hyd nes bydd pob cyfarpar y daeth yr anifeiliaid i gyffyrddiad ag ef wedi'i lanhau fel nad oes arno arwyddion gweledol ei fod wedi ei halogi.
(3) Ni chaiff unrhyw berson symud o'r safle trwyddedig unrhyw gyfarpar y daeth anifeiliaid mewn crynhoad anifeiliaid i gyffyrddiad ag ef—
(a) oni chaiff y cyfarpar ei lanhau fel nad oes arno arwyddion gweledol ei fod wedi ei halogi a bod cyfnod o 27 o ddiwrnodau wedi mynd heibio ers i'r anifail olaf mewn crynhoad anifeiliaid adael y safle trwyddedig, neu
(b) oni chafodd y cyfarpar ei ysgubo a'i grafu'n lân, ei lanhau drwy olchi a'i ddiheintio â diheintydd a gymeradwywyd.
Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925
9 
Nid yw Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925  yn gymwys tra bod y Gorchymyn hwn mewn grym.
Gorfodi
10 
Caiff y Gorchymyn hwn ei orfodi gan yr awdurdod lleol neu'r Ysgrifennydd Gwladol.
Dirymu
11 
Dirymir y canlynol—
(a) Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002;
(b) Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2002;
(c) Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2002);
(ch) Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2003.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
D.Elis-Thomas
Y Llywydd
3 Mawrth 2003Whitty
Is-ysgrifennydd Seneddol
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
3 Mawrth 2003
YR ATODLEN
GOFYNION MEWN PERTHYNAS Å CHRYNHOAD ANIFEILIAID
Erthygl 7
Dyletswyddau trwyddedai
1 

(1) Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod unrhyw berson sy'n mynd ar y safle trwyddedig yn cael gwybod bod y safle'n drwyddedig o dan y Gorchymyn hwn, pa un ai trwy gyfrwng system o hysbysiadau y gwneir hynny neu mewn rhyw ffordd arall.
(2) Rhaid i'r trwyddedai ddarparu baddonau traed ac ynddynt ddiheintydd wedi'i gymeradwyo ar y ffordd allan o'r ardal i anifeiliaid ac mewn unrhyw fae llwytho a dadlwytho, a darparu cyfleusterau ar y safle ar gyfer newid, golchi a diheintio dillad a gwaredu dillad y gellir eu taflu.
(3) Mae'n rhaid i'r trwyddedai—
(a) sicrhau mai yn yr ardal i anifeiliaid y caiff yr anifeiliaid eu dadlwytho a'u hail-lwytho, a
(b) sicrhau, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, nad yw anifeiliaid yn gadael yr ardal i anifeiliaid ac eithrio ar gerbyd.
Y dyletswyddau sydd ar bersonau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid
2 

(1) Ni chaiff unrhyw berson fynd ar safle trwyddedig yn gwisgo dillad allanol y mae arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi'u halogi â charthion anifail neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid.
(2) Os bydd person yn yr ardal i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi gan garthion anifeiliaid neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid, rhaid iddo ar ei union ar ôl gadael yr ardal i anifeiliaid, lanhau halogi garw oddi ar ei ddillad (onid yw'r dillad i gael eu taflu) a naill ai—
(a) eu diheintio; neu
(b) newid ei ddillad am ddillad glân; neu
(c) eu taflu; neu
(ch) ymadael â'r safle trwyddedig.
(3) Os bydd person y tu allan i'r ardal i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi gan garthion anifeiliaid neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid, caiff arolygydd gyflwyno iddo hysbysiad yn rhoi iddo'r dewis o—
(a) glanhau ei ddillad allanol,
(b) newid ei ddillad am ddillad glân,
(c) gwaredu dillad y gellir eu taflu, neu
(ch) ymadael â'r safle trwyddedig a hynny ar ei union.
Esgidiau i'w gwisgo yn yr ardal i anifeiliaid
3 
Rhaid i unrhyw berson sy'n ymadael â'r ardal i anifeiliaid lanhau a diheintio ei esgidiau yn y baddon traed sydd wedi'i ddarparu.
Cerbydau
4 
Ni chaiff unrhyw berson ddod ag unrhyw gerbyd nac offer ar y safle trwyddedig na mynd â hwy oddi yno os ydynt wedi'u halogi â charthion anifeiliaid, ac eithrio carthion yr anifeiliaid sydd ar y cerbyd ar y pryd.