
2003 Rhif 398 (Cy.55)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Diwygio) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud 25 Chwefror 2003
Yn dod i rym 4 Ebrill 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 34, 105(2) a 106(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 4 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Cymru) 2001.
Diwygio Rheoliadau 2001
3 

(1) Mae Rheoliadau 2001 yn cael eu diwygio'n unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 3 —
(a) o flaen y diffiniad o “cyfnod hysbysu” mewnosodwch —“
 mae i “cyfnod deisebu cyntaf” (“first petition period”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 3A;”;
(b) yn lle'r diffiniad o “cyfnod moratoriwm” rhoddir —“
 ystyr “cyfnod moratoriwm” (“moratorium period”) yw'r cyfnod o bum mlynedd sy'n dechrau ar y dyddiad y mae awdurdod yn cynnal refferendwm arno o dan Ran II o'r Ddeddf;”;
(c) yn y diffiniad o “dyddiad y ddeiseb” —
(i) mae paragraffau (a) ac (ch) yn cael eu dileu; ac
(ii) ym mharagraffau (b) ac (c), mae'r geiriau “yn ddarostyngedig i baragraff (ch),” yn cael eu dileu;
(ch) ar ôl y geiriau “Yn y Rhan hon -” mewnosodwch —“
 mae i “cyfnod deisebu” (“petition period”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 3A;”;
(d) ar ôl y diffiniad o “dibenion dilysu” mewnosodwch —“
 ystyr “dyddiad dilysu” (“verification date”), heblaw mewn cysylltiad â'r cyfnod dilysu cyntaf, yw'r dyddiad sy'n dod saith mis cyn dechrau cyfnod deisebu;” ac
(dd) yn lle'r diffiniad o “Rhif dilysu” rhoddir —“
 ystyr “Rhif dilysu” (“verification number”) mewn cysylltiad â deiseb, yw'r Rhif sydd i'w ddefnyddio at ddibenion dilysu yn rhinwedd paragraffau (2) neu (4) o reoliad 4;”
(3) Ar ôl rheoliad 3, mewnosodwch —“
Cyfnodau deisebu
3A. 

(1) Caiff etholaeth llywodraeth leol ar gyfer ardal awdurdod gyflwyno deisebau i'r awdurdod hwnnw yn ystod cyfnod deisebu.
(2) Chwe mis yw hyd cyfnod deisebu.
(3) Bydd y cyfnod deisebu cyntaf yn dechrau ar y dyddiad sy'n dod ddeuddeng mis cyn y dyddiad y mae etholiadau llywodraeth leol cyffredin 2004 i'w cynnal arno.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraffau canlynol y rheoliad hwn, bydd cyfnodau deisebu dilynol ar gyfer awdurdod yn dechrau ar y dyddiad sy'n dod ddeuddeng mis cyn y dyddiad y mae pob etholiad llywodraeth leol cyffredin canlynol i'w gynnal arno.
(5) Os yw rhan neu'r cyfan o un neu fwy o gyfnodau deisebu awdurdod fel y penderfynwyd arno yn unol â pharagraff (4) neu'r paragraffau canlynol i ddod o fewn cyfnod moratoriwm, bydd y cyfnod deisebu hwnnw, neu'r cyfnodau deisebu hynny (sydd, at ddibenion y rheoliad hwn, i'w trin fel pe baent yn gyfnod deisebu unigol), yn dechrau ar y dyddiad yn ystod y cyfnod moratoriwm hwnnw sy'n dod ddeuddeng mis cyn y dyddiad cynharaf y caniateir i refferendwm gael ei gynnal yn gyfreithlon yn ardal yr awdurdod hwnnw.
(6) Os nad yw awdurdod yn cael deiseb ddilys yn ystod cyfnod deisebu a bennir yn unol â pharagraff (5), bydd y dyddiad y bydd y cyfnod deisebu nesaf yn dechrau i'r awdurdod hwnnw yn dod ddeuddeng mis cyn y dyddiad y cynhelir yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin nesaf.
(7) Ni fydd paragraff (6) yn gymwys os bydd rhan neu'r cyfan o gyfnod deisebu a bennir yn unol â'r paragraff hwnnw yn dod mewn blwyddyn lle bydd rhan neu'r cyfan o gyfnod deisebu a bennir yn unol â pharagraff (5) yn dod.
(8) Os nad yw awdurdod yn cael deiseb ddilys yn ystod cyfnod deisebu a bennir yn unol â pharagraff (5) ac, yn rhinwedd paragraff (7), nid yw paragraff (6) yn gymwys, bydd y cyfnod deisebu nesaf ar gyfer yr awdurdod hwnnw yn dechrau ar y dyddiad sy'n dod ddeuddeng mis cyn y dyddiad y cynhelir yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin sy'n dod ar ôl yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin nesaf.”.
(4) Yn lle rheoliad 4, rhowch —“
Rhif dilysu
4. 

(1) Heb fod yn hwyrach na phedair wythnos ar ôl 4 Ebrill 2003, rhaid i swyddog priodol pob awdurdod gyhoeddi'r Rhif sy'n hafal i 10% o'r nifer o etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod a welir yn y gofrestr neu'r cofrestrau etholiadol a gyhoeddwyd ac sydd yn effeithiol ar gyfer ardal yr awdurdod ar y 4 Ebrill 2003.
(2) Caiff y Rhif a gyhoeddir yn unol â pharagraff (1) ei ddefnyddio at ddibenion dilysu mewn cysylltiad ag unrhyw ddeiseb a gyflwynir i'r awdurdod yn ystod y cyfnod deisebu cyntaf.
(3) At ddibenion pob cyfnod deisebu canlynol, rhaid i swyddog priodol pob awdurdod, o fewn y cyfnod o 14 diwrnod sy'n dechrau ar y dyddiad dilysu, gyhoeddi'r Rhif sy'n hafal i 10% o'r nifer o etholwyr llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod fel y'i nodir yn y fersiwn diwygiedig o'r cofrestri sy'n effeithiol ar gyfer yr ardal ar y dyddiad dilysu.
(4) Caiff y Rhif a gyhoeddir yn unol â pharagraff (3) ei ddefnyddio at ddibenion dilysu mewn cysylltiad ag unrhyw ddeiseb a gyflwynir i'r awdurdod yn ystod y cyfnod deisebu sydd i ddechrau saith mis ar ôl y dyddiad dilysu y mae'r nifer hwnnw yn berthnasol iddo.
(5) Caiff y swyddog priodol, mewn cysylltiad â chyflawni'r ddyletswydd sy'n cael ei gosod gan baragraffau (1) neu (3), wneud cais ysgrifenedig i swyddog cofrestru etholiadol ddarparu i'r swyddog priodol wybodaeth sy'n berthnasol i'r Rhif sydd i'w gyhoeddi yn unol â'r paragraffau hynny; a rhaid i swyddog cofrestru etholiadol sy'n cael cais o'r fath gydymffurfio ag ef o fewn y cyfnod o saith diwrnod gan ddechrau ar y diwrnod y daeth y cais i law.”.
(5) Yn lle rheoliad 5, rhowch —“
Cyhoeddusrwydd ar gyfer Rhif dilysu a chyfnod deisebu
5. 
Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cyhoeddi Rhif dilysu, rhaid i'r awdurdod gyhoeddi mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ei ardal hysbysiad sy'n cynnwys datganiad —
(a) bod swyddog priodol yr awdurdod wedi cyhoeddi'r Rhif sy'n hafal i 10% o'r nifer o etholwyr llywodraeth leol a welir yn y gofrestr neu'r cofrestrau etholiadol sy'n effeithiol ar gyfer ardal yr awdurdod ar —
(i) at ddibenion y cyfnod deisebu cyntaf, y dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym; neu
(ii) at ddibenion cyfnod deisebu canlynol, y dyddiad dilysu;
(b) o'r Rhif a gyhoeddwyd felly;
(c) y bydd y Rhif a gyhoeddwyd felly yn effeithiol at ddibenion penderfynu dilysrwydd y deisebau a gyflwynwyd i'r awdurdod yn ystod y cyfnod deisebu cyntaf neu (fel y bo'n briodol) y cyfnod deisebu ar gyfer yr awdurdod hwnnw a fydd yn dechrau saith mis ar ôl y dyddiad dilysu y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (a)(ii);
(ch) o'r dyddiad y bydd y cyfnod deisebu hwnnw (boed hynny y cyfnod deisebu cyntaf neu gyfnod deisebu canlynol) ar gyfer yr awdurdod —
(i) yn dechrau; a
(ii) yn dod i ben; a
(d) o gyfeiriad prif swyddfa'r awdurdod.”.
(6) Yn lle rheoliad 9(1)(c), rhowch —“
(c)  os yw wedi'i chyflwyno i'r awdurdod y mae wedi'i chyfeirio ato ar ddiwrnod sy'n dod o fewn cyfnod deisebu ar gyfer yr awdurdod hwnnw.”.
(7) Yn rheoliad 9(5), yn lle'r geiriau “12 mis” rhoddir “6 mis”.
(8) Yn rheoliad 14(1), ar ôl “o fewn y cyfnod hysbysu” mewnosodwch “ac, os yw'n bosibl, pan fydd y ddeiseb honno yn bodloni gofynion rheoliad 9(1)(c), o fewn y cyfnod deisebu hwnnw,”.
(9) Yn rheoliad 14(3), ar ôl “Mewn achos y mae paragraff (1) yn gymwys iddo”, mewnosodwch “ac yn ddarostyngedig i baragraff (3A)”.
(10) Ar ôl rheoliad 14(3) mewnosodwch —“
(3A) Os yw deiseb y mae hysbysiad i'w gyhoeddi mewn perthynas ag ef yn unol â pharagraff (3) yn bodloni gofynion rheoliad 9(1)(c) rhaid i'r awdurdod, os yw'n bosibl, gyhoeddi'r hysbysiad hwnnw o fewn y cyfnod deisebu hwnnw ac o fewn y cyfnod hysbysu.”.
(11) Yn rheoliad 16(1), ar ôl “Yn ddarostyngedig i baragraffau” mewnosodwch “(1A),”.
(12) Ar ôl rheoliad 16(1) mewnosodwch —“
(1A) Os —
(a) y mae cyfnod deisebu awdurdod yn dechrau (yn rhinwedd rheoliad 3A(5)) ar y dyddiad sy'n dod ddeuddeng mis cyn y dyddiad cynharaf y caiff yr awdurdod gynnal ail refferendwm (neu un dilynol); a
(b) y mae deiseb ddilys yn cael ei chyflwyno i'r awdurdod hwnnw o fewn y cyfnod deisebu hwnnw,
rhaid i'r awdurdod hwnnw gynnal refferendwm ar y dyddiad cynharaf y caniateir iddo gynnal yn gyfreithlon ail refferendwm (neu un dilynol).”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Chwefror 2003