
2003 Rhif 390 (Cy.52)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud 25 Chwefror 2003
Yn dod i rym 1 Ebrill 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 323 a 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac adrannau 89(1), 91(1) a 93(2) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003 a byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill 2003
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn:
 ystyr “apêl” (“appeal”) yw, mewn perthynas ag—
(a) adran 77 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 12 neu 19 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, penderfyniad ar gais a atgyfeiriwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol, ond nid yw'n cynnwys cais y bernir iddo gael ei atgyfeirio i'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhinwedd rheoliad 13(3) o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990; a
(b) adran 78 neu 208 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, apêl wedi'i gwneud o dan yr adran honno;
 ystyr “apelydd” (“appellant”) yw, yn achos:
(a) cais a atgyfeiriwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 77 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 12 neu 19 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y person a wnaeth y cais hwnnw i'r awdurdod cynllunio lleol;
(b) apêl o dan adran 78 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y person y gwrthodwyd ei gais, neu y rhoddwyd caniatad, cytundeb neu gymeradwyaeth i'w gais yn ddarostyngedig i amodau neu nas penderfynwyd ar ei gais, gan yr awdurdod cynllunio lleol; ac
(c) apêl o dan adran 208 o'r Ddeddf Gynllunio, y person y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan adran 207(1) o'r Ddeddf honno;
 ystyr “awdurdod cynllunio lleol” (“local planning authority”) yw, mewn perthynas ag:
(a) cais o dan adran 77 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 12 neu 19 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y corff a ymdriniasai â'r cais pe nas atygyfeirid i'r Cynulliad Cenedlaethol;
(b) apêl o dan adran 78 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y corff a oedd yn gyfrifol am benderfynu'r cais a achosodd yr apêl; ac
(c) apêl o dan adran 208 o'r Ddeddf Gynllunio, y corff a gyflwynodd yr hysbysiad o dan adran 207(1) o'r Deddf honno;
 ystyr “cais” (“application”) yw, mewn perthynas ag:
(a) adran 77 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 12 neu 19 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y cais a atgyfeiriwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol;
(b) adran 78 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y cais sy'n destun yr apêl; ac
(c) adran 208 o'r Ddeddf Gynllunio, yr hysbysiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan adran 207(1) o'r Ddeddf honno;
 mae i “cyfathrebu electronig” yr ystyr a roddwyd i'r term “electronic communication” gan adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000;
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “y Ddeddf Adeiladau Rhestredig” (“the Listed Buildings Act”) yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;
 mae cyfeiriadau at adran 12, 19 neu 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig yn cynnwys cyfeiriad at yr adrannau hynny fel y'u cymhwysir gan adran 74(3) o'r Ddeddf honno;
 ystyr “y Ddeddf Gynllunio” (“the Planning Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
 mae cyfeiriadau at adran 78 o'r Ddeddf Gynllunio yn cynnwys cyfeiriad at yr adran honno fel y'i cymhwysir i geisiadau am orchymynion cadw coed a wneir o dan y Ddeddf honno;
 mae “dogfen” (“document”) yn cynnwys ffotograff, map neu blan;
 ystyr “dyddiad dechrau” (“starting date”) yw dyddiad:
(a) hysbysiad ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol i'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol ei fod wedi cael yr holl ddogfennau sy'n ofynnol i'w alluogi i roi ystyriaeth i'r apêl; neu
(b) hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 4 isod, p'un bynnag yw'r diweddaraf;
 ystyr “holiadur” (“questionnaire”) yw dogfen ar ffurf a ddarperir gan y Cynulliad Cenedlaethol i awdurdod cynllunio lleol at ddibenion achos o dan y Rheoliadau hyn;
 ystyr “hysbysiad perthnasol” (“relevant notice”) yw, mewn perthynas ag:
(a) cais a atgyfeiriwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 77 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 12 neu 19 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, cais ysgrifenedig gan yr apelydd i'r mater gael ei benderfynu drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig; ac
(b) apêl a ddugwyd o dan adran 78 neu 208 o'r Ddeddf Gynllunio neu adran 20 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynwyd gan yr apelydd, sy'n hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o'i ddymuniad i'r apêl gael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig; ac
 mae “sylwadau ysgrifenedig” (“written representations”) yn cynnwys dogfennau ategol.
Cymhwyso'r Rheoliadau
3 

(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys os, wedi iddynt ddod i rym, bydd apelydd yn rhoi gwybod i'r Cynulliad Cenedlaethol yn yr hysbysiad perthnasol o ddymuniad i'r apêl gael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.
(2) Os na fydd apêl yn cael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig a bydd yr apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol yn rhoi gwybod i'r Cynulliad Cenedlaethol eu bod yn dymuno iddi gael ei phenderfynu ar y sail honno, bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i'r apêl i unrhyw raddau y caiff y Cynulliad Cenedlaethol eu pennu gan ystyried unrhyw gamau sydd eisoes wedi eu cymryd mewn perthynas â'r apêl.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn peidio â bod yn gymwys i apelau os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi gwybod i'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol y bydd yn rhoi cyfle iddynt fod yn bresennol a chymryd rhan mewn gwrandawiad neu ymchwiliad lleol a gynhelir gan berson a benodwyd ganddo at y diben hwnnw.
Hysbysu cael cais
4 
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi iddo gael yr hysbysiad perthnasol, roi gwybod yn ysgrifenedig i'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol am:
(a) y dyddiad dechrau;
(b) y cyfeirnod a ddyrannwyd i'r apêl; ac
(c) y cyfeiriad y mae unrhyw gyfathrebu ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol i gael ei anfon iddo.
Hysbysu personau sydd â buddiant
5 

(1) Rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad ysgrifenedig o'r apêl, er mwyn i'r personau a ganlyn ei gael o fewn 2 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau, i:
(a) unrhyw berson a hysbyswyd neu yr ymgynghorwyd ag ef yn unol â'r Ddeddf Gynllunio, y Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu orchymyn datblygu, yn ôl y digwydd, am yr apêl; a
(b) unrhyw berson arall sydd wedi gwneud sylwadau i'r awdurdod cynllunio lleol am yr apêl.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1):
(a) nodi enw'r apelydd a chyfeiriad y safle y mae'r apêl yn berthnasol iddo;
(b) disgrifio'r apêl;
(c) nodi'r materion a hysbyswyd i'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol o dan reoliad 4;
(ch) nodi yr anfonir copïau o unrhyw sylwadau a wnaethpwyd gan unrhyw berson a grybwyllir ym mharagraff (1) i'r Cynulliad Cenedlaethol ac at yr apelydd;
(d) nodi y caiff unrhyw sylwadau o'r fath eu hystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol wrth benderfynu'r apêl oni bai i unrhyw berson a grybwyllwyd ym mharagraff (1) eu tynnu yn ôl o fewn 6 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau; ac
(dd) nodi y bydd yn bosibl i sylwadau ysgrifenedig pellach gael eu hanfon i'r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn iddo eu cael o fewn 6 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau.
Holiadur
6 

(1) Rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol, a chopïo i'r apelydd, er mwyn iddynt eu cael o fewn 2 wythnos o'r dyddiad dechrau:
(a) holiadur wedi'i gwblhau; a
(b) copi o bob un o'r dogfennau y cyfeirir atynt ynddo.
(2) Rhaid i'r holiadur nodi'r dyddiad yr anfonir ef i'r Cynulliad Cenedlaethol arno.
Sylwadau
7 

(1) Bernir mai sylwadau'r apelydd, mewn perthynas â'r apêl, yw'r hysbysiad perthnasol a'r dogfennau sy'n mynd ag ef.
(2) Caiff yr awdurdod cynllunio lleol ddewis trin yr holiadur, a'r dogfennau a anfonwyd gydag ef, fel ei sylwadau mewn perthynas â'r apêl ac, os yw'n gwneud hynny, rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol a'r apelydd yn unol â hynny pan fydd yn anfon yr holiadur i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac yn anfon copi ohono at yr apelydd, yn unol â rheoliad 6.
(3) Os nad yw'r awdurdod cynllunio lleol yn dewis gwneud fel a ddisgrifir ym mharagraff (2), rhaid iddo sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cael 2 gopi o'r sylwadau ysgrifenedig pellach hynny o fewn 6 wythnos o'r dyddiad dechrau.
(4) Rhaid i apelydd sy'n dymuno gwneud unrhyw sylwadau pellach i'r rheini ym mharagraff (1) anfon 2 gopi o'r sylwadau pellach hynny i'r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn iddo eu cael o fewn 6 wythnos o'r dyddiad dechrau.
(5) Rhaid dyddio unrhyw sylwadau a wneir i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraffau (3) a (4) â'r dyddiad yr anfonir hwy i'r Cynulliad Cenedlaethol arno.
(6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl eu cael, anfon at yr apelydd gopi o unrhyw sylwadau a anfonwyd iddo gan yr awdurdod cynllunio lleol, a rhaid iddo anfon i'r awdurdod cynllunio lleol gopi o unrhyw sylwadau a anfonwyd iddo gan yr apelydd.
(7) Rhaid i'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol 2 gopi o unrhyw sylwadau ysgrifenedig sydd gan y naill ar sylwadau'r llall er mwyn iddo eu cael o fewn 9 wythnos o'r dyddiad dechrau a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo eu cael, anfon copi o'r sylwadau pellach hynny i'r parti arall.
(8) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru gwybodaeth bellach oddi wrth yr apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol nad yw wedi ei chael o fewn 9 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau oni bai iddo ofyn am yr wybodaeth bellach honno.
Sylwadau Trydydd Parti
8 

(1) Caiff person a hysbyswyd o dan reoliad 5(1), ac sy'n dymuno anfon sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol, wneud hynny ar yr amod bod y Cynulliad Cenedlaethol yn eu cael o fewn 6 wythnos o'r dyddiad dechrau.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol:
(a) anfon at yr apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl eu cael, gopi o unrhyw sylwadau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi eu cael oddi wrth unrhyw berson arall mewn perthynas â'r apêl; a
(b) pennu cyfnod o nid llai na 2 wythnos erbyn ei ddiwedd y mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gael unrhyw sylwadau ysgrifenedig ar y sylwadau hynny.
(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru sylwadau a wnaethpwyd gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan baragraff (2)(b) os yw'r awdurdod wedi methu â rhoi'r hysbysiad sy'n ofynnol gan reoliad 5.
Caniatáu rhagor o amser
9 
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol mewn achos penodol roi cyfarwyddiadau sy'n estyn y terfynau amser a ragnodwyd gan y Rheoliadau hyn.
Penderfynu ar gais
10 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol fynd rhagddo i benderfynu ar apêl gan gymryd i ystyriaeth dim ond y sylwadau ysgrifenedig hynny y mae wedi'u cael o fewn y terfynau amser perthnasol.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, wedi iddo roi i'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i wneud hynny, fynd rhagddo i benderfynu ar apêl er na wnaethpwyd unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn y terfynau amser perthnasol os ymddengys i'r Cynulliad Cenedlaethol fod ganddo ddigon o ddeunydd ger ei fron i'w alluogi i gyrraedd penderfyniad ar rinweddau'r achos.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “terfynau amser perthnasol” (“relevant limits”) yw'r terfynau amser a ragnodwyd gan y Rheoliadau hyn neu gan unrhyw gyfarwyddyd o dan reoliad 9.
Hysbysu am y penderfyniad
11 
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu ei benderfyniad ar apêl, a'i resymau dros ddod i'r penderfyniad hwnnw, yn ysgrifenedig:
(a) i'r apelydd;
(b) i'r awdurdod cynllunio lleol;
(c) i unrhyw berson sydd â buddiant; ac
(ch) i unrhyw berson arall sydd wedi gofyn am gael ei hysbysu o'r penderfyniad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried y mae'n rhesymol ei hysbysu.
Trosglwyddo dogfennau
12 

(1) Gellir anfon drwy'r post neu drwy gyfrwng cyfathrebu electronig unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei hanfon neu yr awdurdodir ei hanfon gan y naill berson at y llall o dan y Rheoliadau hyn a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn, sut bynnag y caiff ei fynegi, fel petai'n cynnwys cyfeiriad at ffurf y mae modd ei chadw ar gyfrifiadur, ei throsglwyddo i gyfrifiadur ac oddi wrth gyfrifiadur, a'i darllen drwy gyfrwng cyfrifiadur.
(2) O dan y Rheoliadau pan hyn, fydd yn ofynnol i'r naill berson anfon copi o ddatganiad, hysbysiad sylwadau neu ddogfen arall oddi wrth at y llall, yna, os anfonir y copi hwnnw drwy gyfrwng cyfathrebu electronig, mae unrhyw ofyniad pellach y dylid anfon mwy nag un copi i'w ddiystyru.
Dirymu a darpariaethau trosiannol
13 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), dirymir Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) 1987 (“Rheoliadau 1987”) i'r graddau eu bod yn gymwys i Gymru.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), dirymir Rhan IV (rheoliadau 11 i 16) o'r Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999 (“Rheoliadau1999”) i'r graddau ei bod yn gymwys i Gymru.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid parhau ag unrhyw apêl y cymhwysir Rheoliadau 1987 neu, yn ôl y digwydd, Rheoliadau 1999 ati, nad yw wedi ei phenderfynu ar y dyddiad pan ddaw'r Rheoliadau hyn rym, o dan Reoliadau 1987 neu Reoliadau 1999 yn ôl y digwydd.
(4) Os caiff penderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol ar apêl y cymhwysir Rheoliadau 1987, neu, yn ôl y digwydd, Rheoliadau 1999, ati ei ddileu wedyn mewn achos o flaen unrhyw lys, rhaid ailbenderfynu'r penderfyniad yn unol â'r Rheoliadau hyn ac nid Rheoliadau 1987 neu, yn ôl y digwydd, Rheoliadau 1999.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Chwefror 2003