
2003 Rhif 3223 (Cy.306)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Diwygio) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud 9 Rhagfyr 2003
Yn dod i rym 11 Rhagfyr 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9(2) a (3) o Ddeddf Mabwysiadu 1976 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 11 Rhagfyr 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygio rheoliad 5A o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983
2 
Yn rheoliad 5A o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983 (deiliadaeth swydd aelodau), ar ôl paragraff (1), mewnosoder —“
(1A) Where —
(a) a member of an adoption panel holds office and is in his second consecutive term as a member of that panel; and
(b) his term of office is due to expire on or after 31st December 2003,
the adoption agency may extend the term of office of that member for a further period not exceeding two years.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Rhagfyr 2003