
2003 Rhif 3211 (Cy.304)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2003
Wedi'u gwneud 9 Rhagfyr 2003
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru :
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2003.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992.
Diwygio Rheoliadau 1992
2 
O ran y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004, diwygir Atodlenni 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn:—
(a) ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 yn lle “0.999” rhoddir “0.998”; a
(b) yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Rhagfyr 2003
YR ATODLEN
Rheoliad 2
“
SCHEDULE 4
ADULT POPULATION FIGURES
Regulation 6


Billing authority area Prescribed figure
Blaenau Gwent 52,800
Bridgend 99,400
Caerphilly 129,200
Carmarthenshire 137,000
Cardiff 238,900
Ceredigion 62,500
Conwy 87,500
Denbighshire 73,400
Flintshire 114,900
Gwynedd 91,900
Isle of Anglesey 53,000
Merthyr Tydfil 42,500
Monmouthshire 65,700
Neath Port Talbot 104,900
Newport 104,400
Pembrokeshire 88,000
Powys 99,700
Rhondda Cynon Taf 177,200
Swansea 176,100
Torfaen 69,200
Vale of Glamorgan (The) 91,200
Wrexham 100,700”