
2003 Rhif 3117 (Cy.295)
CYNRYCHIOLAETH Y BOBL, CYMRU
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2003
Wedi'i wneud 2 Rhagfyr 2003
Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan erthygl 21(1) a (2) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2003, ac ar ôl ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol —
Enwi, cychwyn a dehongli
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2003 a daw i rym y diwrnod ar ôl iddo gael ei wneud.
Talu ffioedd hyfforddi i Swyddogion Canlyniadau
2 

(1) Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2002 yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 3(1)(b) rhodder — “treuliau o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau 3(1), 4(1), 5(1), 6(1) a 6A(1) o'r Atodlen, ac”.
(3) Yn rheoliad 3(2)(b), yn lle “7(1)” rhodder “5(1) a 6A(1)”.
(4) Yn Rhan II o'r Atodlen, ar ôl Paragraff 6 mewnosoder paragraff newydd, sef Paragraff 6A—“
Taliadau mewn cysylltiad â hyfforddi swyddogion llywyddu:
6A. 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwneud taliad i swyddog canlyniadau mewn cysylltiad â chostau a dynnir wrth hyfforddi swyddogion llywyddu i gyflawni dyletswyddau ar ddiwrnod pleidleisio mewn etholiad Cynulliad.
(2) £40.00 yw'r uchafswm y gellir ei adennill fesul swyddog llywyddu sy'n cael hyfforddiant.
(3) Yn ychwanegol at y costau y gellir eu hadennill o dan baragraff (2) £125.00 yw'r uchafswm y gellir ei adennill fesul etholaeth Cynulliad mewn cysylltiad â pharatoi deunyddiau hyfforddi.
(4) Yn ychwanegol at y costau y gellir eu hadennill o dan baragraffau (2) a (3) £100.00 yw'r uchafswm y gellir ei adennill fesul cyflwyniad hyfforddi a roddir i swyddogion llywyddu.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Rhagfyr 2003