
2003 Rhif 3064 (Cy.293)(C.115)
GWASANAETH IECHYD GWLADOL, LLOEGR A CHYMRU
Gorchymyn Deddf Iechyd (Cymru) 2003 (Cychwyn Rhif 2) 2003
Wedi'i wneud 26 Tachwedd 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 8(2) a 10(2) o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd (Cymru) 2003 (Cychwyn Rhif 2) 2003.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd (Cymru) 2003;
Y dyddiau a bennwyd ar gyfer darpariaethau ynglŷn â'r Cynghorau Iechyd Cymuned yn Lloegr
2 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) 1 Rhagfyr 2003 yw'r dydd a bennwyd i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym at bob diben —
(i) adran 1 ac Atodlen 1;
(ii) paragraffau 3, 4, 5, 7, a 14 o Atodlen 3 ac adran 7(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â hwy; a
(iii) adran 7(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 4 ac eithrio'r cyfeiriad at adran 22(4) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002.
(2) Dim ond ynglŷn â Lloegr y mae'r darpariaethau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yn cael eu dwyn i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D.Elis- Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Tachwedd 2003