
2003 Rhif 3054 (Cy.292)
NYRSYS, BYDWRAGEDD AC YMWELWYR IECHYD, CYMRU
Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) (Diwygio) 2003
Wedi'u gwneud 26 Tachwedd 2003
Yn dod i rym 1 Rhagfyr 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 4(6), 16(3), 22(1) a (2)(b), 25, 34(1), 35 a 118(5) — (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i asiantaethau nyrsys yng Nghymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) (Diwygio) 2003
2 
Diwygir Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003 fel a ganlyn:—
 yn rheoliad 12(1) (Ffitrwydd y nyrsys sy'n cael eu cyflenwi gan asiantaeth) yn lle isbaragraff (ch) rhodder y canlynol:—“
(ch) bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael amdano/amdani —
(i) ac eithrio lle mae paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 i 4 a 6 i 13 o Atodlen 3;
(ii) lle mae paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 i 3 a 5 i 13 o Atodlen 3.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Tachwedd 2003