
2003 Rhif 3046 (Cy.289)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Gorchymyn y Dreth Gyngor (Bandiau Prisio) (Cymru) 2003
Wedi'i wneud 26 Tachwedd 2003
Yn dod i rym 30 Tachwedd 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 5(4) a (4A) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Bandiau Prisio) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 30 Tachwedd 2003.
(2) Dim ond i anheddau a leolir yng Nghymru y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
(4) Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn ac yn y Ddeddf yr un ystyron yn y Gorchymyn hwn ag sydd iddynt yn y Ddeddf.
Symiau gwahanol i anheddau mewn bandiau prisio gwahanol
2 

(1) Caiff adran 5 o'r Ddeddf ei diwygio yn unol â'r Erthygl hon.
(2) Ar ôl is-adran (1), mewnosoder —“
(1A) For the purposes of the application of subsection (1) to dwellings situated in Wales, for the purposes of financial years beginning on or after 1st April 2005, for the proportion specified in that subsection there is substituted the following proportion:
 6: 7: 8: 9: 11: 13: 15: 18: 21”.
(3) O ran blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005 rhodder y Tabl isod yn lle'r un a geir yn is-adran (3) —“

Range of values Valuation band
Values not exceeding £44,000 A
Values exceeding £44,000 but not exceeding £65,000 B
Values exceeding £65,000 but not exceeding £91,000 C
Values exceeding £91,000 but not exceeding £123,000 D
Values exceeding £123,000 but not exceeding £162,000 E
Values exceeding £162,000 but not exceeding £223,000 F
Values exceeding £223,000 but not exceeding £324,000 G
Values exceeding £324,000 but not exceeding £424,000 H
Values exceeding £424,000 I”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Tachwedd 2003