
2003 Rhif 3035 (Cy.283)
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRUCADWRAETH PYSGOD MÔR
Gorchymyn Rhwydi Pysgota Perdys (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud 26 Tachwedd 2003
Yn dod i rym 30 Tachwedd 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 5(1) a 15(3) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Cadwraeth) 1967, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rhwydi Pysgota Perdys (Cymru) 2003 a daw i rym ar 30 Tachwedd 2003.
(2)  Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2 

(1) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “cwch pysgota Prydeinig” (“British fishing boat”) yw cwch pysgota sydd naill ai wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnachol 1995 neu sydd dan berchenogaeth lwyr personau sy'n gymwys i berchenogi llongau Prydeinig at ddibenion y rhan honno o'r Ddeddf honno; ac
 ystyr “pen y cwd” (“codend”) yw'r rhan olaf un o rwyd, a luniwyd o un neu fwy o baneli yn cynnwys darnau o rwydwe y mae maint ei masgl yr un fath a'r darnau hynny wedi'u cysylltu â'i gilydd ar hyd eu hymylon yn echel hir y rhwyd gan gareiau.
(2) At ddibenion y Gorchymyn hwn, rhaid mesur masgl rhwyd neu rwydwe yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2108/1984 ar 23 Gorffennaf 1984 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer penderfynu maint masgl rhwydi pysgota ac a ddiwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2550/1997).
Gwahardd pysgota perdys heb dreillrwyd wahanu neu grid didoli
3 
Gwaherddir cychod pysgota Prydeinig rhag cario na defnyddio rhwyd, y mae mesur ei masgl rhwng 16 a 31 milimetr oni bai fod yr amodau canlynol wedi'u bodloni —
(a) bod rhwydwe, y mae ei masgl yn mesur o leiaf ddwywaith mesur pen y cwd a dim mwy na 70 milimetr, wedi ei rhoi ar draws holl drawsdoriad y rhwyd yn y fath fodd —
(i) na all pysgod gyrraedd pen y cwd heb yn gyntaf fynd drwy'r rhwydwe; a
(ii) bod twll yn y rhwyd y mae'r holl bysgod nad ydynt ym mynd drwy'r rhwydwe yn gallu ffoi drwyddo;
(b) bod grid anhyblyg, nad yw'r gofod rhwng ei fariau yn fwy nag 20 milimetr wedi ei roi ar draws holl drawsdoriad y rhwyd yn y fath fodd —
(i) na all pysgod gyrraedd pen y cwd heb yn gyntaf fynd drwy'r grid; a
(ii) bod twll yn y rhwyd y mae'r holl bysgod nad ydynt ym mynd drwy'r grid yn gallu ffoi drwyddo;
(c) na chadwyd unrhyw bysgod ar fwrdd y cwch; neu
(ch) os oes unrhyw bysgod wedi'u cadw ar fwrdd y cwch, bod llai na 60% yn ôl pwysau byw cyfanswm yr haldiad a gadwyd yn cynnwys perdys cyffredin (Crangon spp.), perdys Aesop (Pandalus montagui) neu gyfuniad o'r ddau.
Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig
4 

(1) At ddibenion gorfodi'r Gorchymyn hwn, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota Prydeinig y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo.
(2) Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda neu heb bersonau a neilltuwyd i gynorthwyo, a chaiff fynnu bod y cwch yn stopio a gwneud unrhyw beth arall a fyddai'n hwyluso mynd ar fwrdd y cwch.
(3) Caiff y swyddog fynnu presenoldeb y meistr ac unrhyw berson arall sydd ar y cwch a chaiff wneud unrhyw archwiliad neu ymholiad sy'n ymddangos iddo ef neu iddi hi yn angenrheidiol at y diben o orfodi'r Gorchymyn hwn, ac yn arbennig —
(a) caiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch hwnnw a chyfarpar y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a chaiff fynnu bod personau sydd ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwiliad; a
(b) caiff fynnu bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn dangos unrhyw ddogfen ynglŷn â'r cwch, ag unrhyw weithrediadau pysgota neu unrhyw weithrediadau ategol iddynt neu â'r personau sydd ar fwrdd y cwch sydd yng ngwarchodaeth neu feddiant y person hwnnw a chaiff gymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath;
(c) er mwyn canfod a yw meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni unrhyw dramgwydd o dan adran 3(5) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 fel y'i darllenir ynghyd â'r Gorchymyn hwn, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a gall fynnu bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol i hwyluso'r chwilio;
(ch) os oes gan y swyddog reswm dros amau fod tramgwydd o'r fath wedi'i gyflawni, caiff gymryd a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a ddangosir iddo neu iddi neu a ddeuir o hyd iddi er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn unrhyw achos ynglŷn â'r tramgwydd;
ond nid yw unrhyw beth yn is-baragraff (ch) uchod yn caniatáu cymryd a chadw unrhyw ddogfen y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch, ac eithrio pan fydd y cwch yn cael ei ddal mewn porthladd.
(4) Pan fydd yn ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn wedi'i dorri, caiff y swyddog —
(a) fynnu bod meistr y cwch y cyflawnwyd y toriad mewn cysylltiad ag ef yn mynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd sy'n ymddangos i'r swyddog fel y porthladd cyfleus agosaf; a
(b) dal, neu fynnu bod y meistr yn dal, y cwch yn y porthladd;
a phan fydd swyddog o'r fath yn dal, neu'n mynnu bod y cwch yn cael ei ddal, rhaid iddo gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig yn datgan y bydd y cwch yn cael ei ddal neu fod angen ei ddal hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Tachwedd 2003