
2003 Rhif 2961 (Cy.278) (C.108)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2003
Wedi'i wneud 18 Tachwedd 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 216, (4)(b) a (5) o Ddeddf Addysg 2002, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2003.
2 
Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru yn unig.
3 
Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at Rannau, adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at Rannau ac adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.
Diwrnodau penodedig
4 
1 Rhagfyr 2003 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
5 
4 Rhagfyr 2003 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
6 
1 Ionawr 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan III o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
7 
9 Ionawr 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan IV o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Tachwedd 2003
YR ATODLEN
Erthyglau 4, 5, 6 a 7
RHAN I Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Rhagfyr 2003

Y ddarpariaeth Y pwnc
Adran 46 Fforymau Derbyn
Adran 188 i'r raddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 16 isod Arolygiadau ysgolion
Atodlen 16, paragraffau 1 i 3 Diwygiadau i Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996
RHAN II Darpariaethau sy'n dod i rym ar 4 Rhagfyr 2003

Y ddarpariaeth Y pwnc
Adran 41 Penderfyniad cyllideb benodedig yr AALl
Adran 42 Pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i osod lleiafswm cyllideb ysgolion
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isod Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod Diddymiadau
Atodlen 21, Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Paragraff 100 (1) a (2), 
Paragraff 113 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym ac eithrio is-baragraffau (a), (b) ac (f), 
Paragraff 125, 
Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu — Diddymiadau
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, 
Adran 46, 
Yn adran 143, y cofnod mewn perthynas â “local schools budget”. 
RHAN III Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ionawr 2004

Y ddarpariaeth Y pwnc
Adrannau 157 i 171 Rheoleiddio ysgolion annibynnol
Adrannau 172 i 174 Ysgolion annibynnol: plant ag anghenion addysgol arbennig
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isod Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod Diddymiadau
Atodlen 21 Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Paragraff 122(b), 
Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu — Diddymiadau
Deddf Pensiynau ac Ymddeoliad Barnwyr 1993, yn Atodlen 5, y cyfeiriad at “Chairman of an Independent Schools Tribunal”, yn Atodlen 7, paragraff 5(5) (xxvii), 
Deddf Addysg 1996, adrannau 464 i 478, adran 537(9) a (10), yn adran 568, yn is-adran (2) y geiriau “section 468, 471(1) and 474”, yn is-adran (3) y geiriau o “section 354(6)” hyd at “401” ac is-adran (4), yn adran 580, y cofnodion sy'n ymwneud â “register, registration; registered school; Registrar of Independent Schools”, Atodlen 34, 
Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996, yn adran 10, is-adran (3)(e) ac, yn is-adran (4B), paragraff (f) a'r “or” blaenorol, yn adran 11(5), ym mharagraff (a), “e”, yn adran 20(3), paragraff (b) a'r “or” blaenorol, yn adran 21, yn is-adran (4), paragraff (b) a'r “or” blaenorol, yn Atodlen 3, yn y diffiniad o “appropriate authority” ym mharagraff 1, ym mharagraff (c), “e”, 
Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, yn adran 3, is-adran (3)(c), 
Deddf Safonau Gofal 2000, Adran 100, yn Atodlen 4, paragraff 24. 
RHAN IV Darpariaethau sy'n dod i rym ar 9 Ionawr 2004

Y ddarpariaeth Y pwnc
Adran 51 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 4 isod Plant sydd wedi'u gwahardd yn barhaol o ddwy ysgol neu fwy
Adran 52(1) i (6) Gwaharddiadau
Adran 207 awdurdodau addysg lleol Adennill: addasu rhwng
Adran 208 Adennill: achosion arbennig
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isod Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod Diddymiadau
Atodlen 4, paragraffau 1 a 4 neu fwy Plant sydd wedi'u gwahardd yn barhaol o ddwy ysgol
Atodlen 21, Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Paragraff 1 ond i'r graddau y mae'n ymwneud â lwfansau ar gyfer panelau apêl yn erbyn gwaharddiad, 
Paragraff 2 ac eithrio is-baragraff (a), 
Paragraff 22 ond i'r graddau y mae'n amnewid paragraff 15(b) newydd o Atodlen 1 i Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992, 
Paragraff 27(1) a (2), 
Paragraff 112 ac eithrio i'r graddau y mae'n mewnosod y diffiniad o “foundation governor”, 
Paragraff 113 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym ac eithrio is-baragraffau (b) ac (f), 
Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu — Diddymiadau
Deddf Llywodraeth Leol 1974, adran 25(5)(b), 
Deddf Addysg 1996, adran 492, Yn Atodlen 1, paragraff 7, 
Deddf Addysg 1997. Yn Atodlen 7, paragraff 36, 
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adrannau 64 i 68, Atodlen 18. 