
2003 Rhif 2910 (Cy.276)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud 12 Tachwedd 2003
Yn dod i rym 14 Tachwedd 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 14 Tachwedd 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn —
 mae i “awdurdod bwyd” yr un ystyr â “food authority” yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o'r Ddeddf;
 ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) mewn perthynas ag unrhyw ardal iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yw awdurdod iechyd porthladd am ar ardal honno a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno.
 ystyr “Cyfarwyddeb 98/53/EC” (“Directive 98/53/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 98/53/EC sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheolaeth swyddogol ar lefelau halogion penodol mewn bwydydd fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/27/EC;
 mae i “cylchrediad rhydd” yr un ystyr â “free circulation” yn Erthygl 23.2, fel y'i darllenir ynghyd ag Erthygl 24, o'r Cytuniad a sefydlodd y Gymuned Ewropeaidd; ac
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990 ac, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall ac yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Ddeddf;
 ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2000/49/EC sy'n diddymu Penderfyniad 1999/356/EC ac sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio pysgnau a chynhyrchion penodol sy'n deillio o bysgnau sy'n tarddu o'r Aifft neu'n cael eu traddodi o'r Aifft) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/580/EC;
 ystyr “pysgnau o'r Aifft” (“Egyptian peanuts”) yw —
(a) pysgnau sy'n dod o fewn cod CN 1202 10 90 yn eu plisg neu o fewn cod 1202 20 00 heb eu plisg, p'un a ydynt wedi'u torri ai peidio; a
(b) pysgnau rhost sy'n dod o fewn cod CN 2008 11 92 (mewn pecynnau uniongyrchol o gynnwys net dros 1 kg) neu o fewn cod CN 2008 11 96 (mewn pecynnau uniongyrchol o gynnwys net nad yw dros 1 kg),sy'n tarddu o'r Aifft neu'n cael eu traddodi o'r Aifft;
 ystyr “pysgnau o'r Aifft a reolir” (“controlled Egyptian peanuts”) yw pysgnau o'r Aifft y bwriedir i bobl eu bwyta neu i'w defnyddio fel cynhwysyn mewn bwydydd;
(2) Mae i unrhyw derm a ddefnyddir yn y diffiniad o “pysgnau o'r Aifft” (Egyptian peanuts”) neu “pysgnau o'r Aifft a reolir” (“controlled Egyptian peanuts”) ym mharagraff (1) yr un ystyr â'r termau cyfatebol ym Mhenderfyniad y Comisiwn.
Gwaharddiad ar fewnforio
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff neb fewnforio i Gymru unrhyw bysgnau o'r Aifft a reolir oni bai bod yr amodau a bennir yn Erthygl 1.1, 3, 5 a 7 o Benderfyniad y Comisiwn wedi'u bodloni mewn perthynas â'r pysgnau hynny.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff neb fewnforio i Gymru unrhyw bysgnau o'r Aifft a reolir, ac eithrio trwy bwynt mynediad a restrir yn Atodiad II i Benderfyniad y Comisiwn.
(3) Rhaid peidio â deall pharagraff (1) na pharagraff (2) fel petaent yn gwahardd mewnforio i Gymru o Aelod-wladwriaeth unrhyw bysgnau o'r Aifft a reolir ac sydd mewn cylchrediad rhydd yn yr Aelod-wladwriaeth honno.
(4) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (1) neu (2) yn fwriadol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am dymor nad yw'n hwy na thri mis.
(5) At ddibenion penderfynu a yw person yn euog o dramgwydd sy'n deillio o dorri paragraff (4) neu beidio, rhaid cymryd mai pysgnau o'r Aifft a reolir yw unrhyw bysgnau o'r Aifft hyd nes y profir i'r gwrthwyneb.
Gorfodi
4 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dyletswydd pob awdurdod iechyd porthladd yw gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
(2) Mewn perthynas ag unrhyw le nad yw wedi'i leoli o fewn ardal awdurdod iechyd porthladd, rhaid i'r awdurdod bwyd ar gyfer yr ardal y mae'r lle hwnnw wedi'i lleoli ynddi weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.
(3) At ddibenion arfer y ddyletswydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) neu, yn ôl y digwydd, (2), rhaid i swyddog awdurdodedig yr awdurdod dan sylw—
(a) sicrhau y glynir wrth y gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff (4); a
(b) bod â'r un pwerau mynediad ag a roddir i swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi gan adran 32 o'r Ddeddf at ddibenion sy'n gysylltiedig â'r Ddeddf neu Reoliadau neu Orchmynion a wneir o dan y Ddeddf.
(4) Y gofynion yw'r gofynion a bennir yn —
(a) Erthygl 1.4 o Benderfyniad y Comisiwn (sy'n cyfeirio at wirio'r dogfennau sy'n ymwneud â llwythau o bysgnau o'r Aifft a reolir);
(b) Erthyglau 1.5 a 6 o'r Penderfyniad hwnnw (y mae ei ddarpariaethau'n ymwneud â samplu a dadansoddi'r llwythau hynny), ac eithrio'r gofyniad o dan Erthygl 1.5 i roi gwybodaeth benodedig i'r Comisiwn; ac
(c) Erthygl 1.7 o'r Penderfyniad hwnnw (sy'n ymwneud ag achosion o hollti llwythi).
(5) Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd ac awdurdod bwyd roi unrhyw gymorth a gwybodaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Asiantaeth Safonau Bwyd y maent yn gofyn yn rhesymol amdanynt mewn cysylltiad â gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.
Cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 a samplu a dadansoddi
5 

(1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
(a) adran 20 (tramgwyddau sy'n codi oherwydd bai person arall);
(b) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(c) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (b);
(ch) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (b);
(d) adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (c);
(dd) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(e) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
(2) Mae adran 29 o'r Ddeddf (caffael samplau) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiadau canlynol —
(a) bod y geiriau “a food authority or as the case may be a port health authority” yn cael eu rhoi yn lle “an enforcement authority”;
(b) bod y ddarpariaeth a ganlyn yn cael ei rhoi yn lle is-adran (b)(ii) —“
(ii) is found by him at any premises which he is authorised to enter by virtue of regulation 4(3)(b) of the Food (Peanuts from Egypt) (Emergency Control) (Wales) Regulations 2003;”;
(c) bod y pwer i gymryd samplau o dan is-adrannau (b) a (d) yn cael ei gyfyngu i gymryd samplau yn unol â'r dulliau cymryd samplau a ddisgrifir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 98/53/EC neu yn unol â'r dulliau y cyfeirir atynt ynddo;
(ch) bod is-adran (c) yn cael ei hepgor; ac
(d) bod y geiriau “the Food (Peanuts from Egypt (Emergency Control) (Wales) Regulations 2003” yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau “any of the provisions of this Act or of regulations or orders made under it” yn is-adran (d);
(3) Pan fydd swyddog awdurdodedig wedi cymryd sampl o unrhyw bysgnau o'r Aifft a reolir yn unol ag adran 29(b) o'r Ddeddf fel y'i cymhwysir at ddibenion y Rheoliadau hyn gan baragraff (2), rhaid iddo sicrhau —
(a) bod y sampl yn cael ei pharatoi —
(i) yn unol â pharagraffau 1.1, 2 a 3 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 98/53/EC, a
(ii) yn achos cnau cyfan, yn unol â pharagraff 1.2 o'r Atodiad hwnnw;
(b) bod dadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud mewn labordy sy'n cydymffurfio â Chyfarwyddeb y Cyngor 93/99/EEC ar bwnc mesurau ychwanegol ynghylch rheolaeth swyddogol ar fwydydd;
(c) bod dadansoddiad yn cael ei wneud cyn gynted ag y bo'n ymarferol gan ddadansoddwr sydd â chymwysterau addas yn unol â dulliau dadansoddi sydd—
(i) cyn belled ag y bo'n ymarferol, yn cydymffurfio â pharagraffau 1 a 2 o'r Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 85/591/EEC sy'n ymwneud â chyflwyno dulliau'r Gymuned o samplu a dadansoddi ar gyfer monitro bwydydd y bwriedir i bobl eu bwyta , a
(ii) yn bodloni'r meini prawf a bennir ym mharagraff 4.3 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 98/53/EC fel y'i darllenir ynghyd â'r nodiadau sydd iddo; ac
(ch) bod adrodd ar ganlyniad y dadansoddi hwnnw —
(i) yn defnyddio'r diffiniadau ym mharagraff 4.1 o Atodiad II o Gyfarwyddeb 98/53/EC, a
(ii) yn cydymffurfio â pharagraff 4.4 o'r Atodiad hwnnw.
(4) Cyn i ddadansoddwr gytuno i ddadansoddi sampl yn unol â phragraff (3)(c) caiff y dadansoddwr fynnu bod y cyfryw ffi ag y gallai ofyn amdani yn cael ei thalu ymlaen llaw.
(5) Rhaid i ddadansoddwr sydd wedi dadansoddi sampl yn unol â pharagraff (3)(c) roi i'r person a'i rhoddodd iddo dystysgrif a fydd yn pennu canlyniad y dadansoddi ac a fydd wedi'i llofnodi gan y dadansoddwr.
(6) Mewn unrhyw achos o dan y Rheoliadau hyn, os bydd y naill barti neu'r llall yn cyflwyno'r canlynol —
(a) dogfen sy'n honni bod yn dystysgrif a roddwyd gan ddadansoddwr o dan baragraff (5); neu
(b) dogfen a roddwyd i'r dadansoddwr gan y parti arall fel copi o'r dystysgrif honno,
bydd hon yn dystiolaeth ddigonol o'r ffeithiau sy'n cael eu datgan ynddi oni bai, mewn achos sy'n dod o fewn is-baragraff (a), bod y parti arall yn gofyn i'r dadansoddwr gael ei alw fel tyst.
(7) Pan fydd sampl a gafwyd o dan adran 29 o'r Ddeddf fel y'i cymhwyswyd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan baragraff (2) wedi'i dadansoddi yn unol â pharagraff 3(b) ac (c), bydd gan y perchennog hawl ar gais i gael copi o'r dystysgrif ddadansoddi gan yr awdurdod sydd, yn rhinwedd rheoliad 4(1) neu (2), â'r ddyletswydd o'u gorfodi.
(8) Nid oes dim ym mharagraff (3)(c) i'w gymryd fel petai'n atal person sy'n gweithio o dan gyfarwyddyd dadansoddwr rhag gwneud dadansoddiad.
Ailanfon neu ddistrywio mewnforion anghyfreithlon
6 

(1) Wedi arolygu neu archwilio unrhyw bysgnau o'r Aifft, os yw'n ymddangos i swyddog awdurdodedig awdurdod iechyd porthladd neu yn ôl y digwydd awdurdod bwyd eu bod wedi'u mewnforio yn groes i reoliad 3(1) neu (2), caiff y swyddog awdurdodedig, ar ôl ymgynghori'n briodol â pherson y mae'n ymddangos iddo mai ef yw'r mewnforiwr, gyflwyno hysbysiad i'r person hwnnw a'r hysbysiad hwnnw'n gorchymyn —
(a) ailanfon y pysgnau o'r Aifft y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd o fewn y cyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad; neu
(b) (lle y byddai'r ailanfon hwn ym marn y swyddog awdurdodedig yn creu peryglon difrifol i iechyd pobl), distrywio'r pysgnau o'r Aifft o fewn y cyfnod rhesymol a bennir.
(2) Mewn unrhyw achos lle caniateir dwyn apêl o'r math a grybwyllir ym mharagraff (3) rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) ddatgan —
(a) bod hawl apelio i lys ynadon; a
(b) y cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl.
(3) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad swyddog awdurdodedig i gyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1) apelio i lys ynadon a fydd yn penderfynu a gyflwynwyd yr hysbysiad yn gyfreithlon neu beidio.
(4) Chwe diwrnod o'r dyddiad pan gyflwynwyd yr hysbysiad ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Cyhoeddus yw'r cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl a grybwyllir ym mharagraff (3) ac at ddibenion y paragraff hwn bernir bod gwneud y gwyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl.
(5) Y weithdrefn ar apêl i lys ynadon o dan baragraff (3) fydd trwy gyfrwng cwyn yn erbyn gorchymyn a Deddf Llysoedd Ynadon 1980 fydd yn gymwys i'r achos.
(6) Os bydd y llys yn caniatáu apêl o dan baragraff (3) rhaid i'r awdurdod o dan sylw dalu iawndal i berchennog y pysgnau o'r Aifft o dan sylw am unrhyw ddibrisiant yn eu gwerth sy'n deillio o'r camau a gymerwyd gan y swyddog awdurdodedig.
(7) Penderfynir ar unrhyw gwestiwn sy'n destun dadl ynghylch yr hawl i gael iawndal neu swm unrhyw iawndal sy'n daladwy o dan baragraff (6) drwy gymrodeddu.
(8) Bydd unrhyw berson sy'n torri telerau hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am dymor nad yw'n hwy na thri mis.
Dirymu Gorchymyn Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru a Lloegr) 2000
7 
Dirymir Gorchymyn Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru a Lloegr) 2000 i'r graddau y mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Tachwedd 2003