
2003 Rhif 2755 (Cy.266)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) (Dirymu) 2003
Wedi'u gwneud 29 Hydref 2003
Yn dod i rym 30 Hydref 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 18(1)(c), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo, ac wedi parchu yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Teitl, cychwyn a chymhwyso
1 
Ar gyfer y Rheoliadau hyn —
(a) eu henw fydd Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) (Diddymu) 2003;
(b) deuant i rym ar 30 Hydref 2003;
(c) byddant yn gymwys i Gymru yn unig.
Dirymu
2 
Drwy hyn dirymir Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2002.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Hydref 2003