
2003 Rhif 2726 (Cy.261)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Cynllun Grantiau Ailstrwythuro'r Diwydiant Moch (Cymru) (Amrywio) 2003
Wedi'i wneud 23 Hydref 2003
Yn dod i rym 31 Hydref 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 1 o Ddeddf Tir Ffermio a Datblygu Gwledig 1988 ac adrannau 28 a 29 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 yn gwneud y cynllun canlynol:
Enw, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Cynllun hwn yw Cynllun Grantiau Ailstrwythuro'r Diwydiant Moch (Cymru) (Amrywio) 2003, mae'n gymwys i Gymru a daw i rym ar 31 Hydref 2003.
Diwygio Cynllun Grant Ailstrwythuro'r Diwydiant Moch (Cymru) 2001
2 

(1) Diwygir Cynllun Grant Ailstrwythuro'r Diwydiant Moch (Cymru) 2001 fel a ganlyn.
(2) Rhoddir, yn lle'r diffiniad o “banc” ym mharagraff 2, y diffiniad canlynol —“
 ystyr “banc” (“bank”) yw —
(i) person a chanddo ganiatâd o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000) i dderbyn adneuon,
(ii) cwmni'r Ardal Economaidd Ewrop o'r math a grybwyllwyd ym mharagraff 5(b) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno a chanddo ganiatâd o dan baragraff 15 o'r Atodlen honno (o ganlyniad i gymhwyso ar gyfer awdurdodi o dan baragraff 12 o'r Atodlen honno) i dderbyn adneuon,
(iii) y banc Cynilion Cenedlaethol,
(iv) banc bwrdeistrefol, sef cwmni a oedd, yn union cyn diddymu Deddf Bancio 1987 wedi ei eithrio o'r gwaharddiad yn adran 3 o'r Ddeddf honno yn rhinwedd adran 4(1) o'r Ddeddf honno a pharagraff 4 o Atodlen 2 iddi, neu
(v) undeb gredyd o fewn cwmpas yr ystyr yn Neddf Undebau Credyd 1979.”
(3) Mewnosodir y paragraff isod ar ôl is-baragraff (1) o baragraff 2.“
(1A) Rhaid i ddiffiniad “banc” (“bank”) yn is-baragraff (1) gael ei ddarllen gydag —
(a) adran 22 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000;
(b) unrhyw orchymyn perthnasol a wnaed o dan yr adran honno; ac
(c) Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Hydref 2003