
2003 Rhif 2676 (Cy.258)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol) (Dyfarndaliadau am Wasanaeth a Roddwyd) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud 15 Hydref 2003
Yn dod i rym 16 Hydref 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 18(3A) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ac sydd yn arferadwy yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru, a'r pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 13, 32, 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol) (Dyfarndaliadau am Wasanaeth a Roddwyd) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 16 Hydref 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “awdurdod” (“authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
 ystyr “awdurdod rhagflaenol” (“predecessor authority”) yw unrhyw awdurdod lleol a oedd yn bodoli yng Nghymru cyn 1 Ebrill 1996 ac nad oedd yn gyngor plwyf, yn gyngor tref nac yn gyngor cymuned;
 ystyr “cyfnod cymhwyso” (“qualifying period”) yw'r cyfnod amser y mae'r awdurdod yn penderfynu mai hwnnw yw'r cyfnod y mae'n rhaid i aelod fod wedi bod yn aelod etholedig o awdurdod neu awdurdod rhagflaenol yng Nghymru i gymhwyso ar gyfer dyfarndal am wasanaeth a roddwyd a hwnnw'n gyfnod nad yw'n llai na phymtheng mlynedd erbyn 9 Mai 2003;
 ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Blwydd-daliadau 1972;
 ystyr “dyfarndal am wasanaeth a roddwyd” (“past service award”) yw rhodd arian yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 7 o Ddeddf 1972.
Dyfarndaliadau am wasanaeth a roddwyd
3 
Yn ddarostyngedig i Reoliad 4 caiff awdurdod benderfynu pa aelodau o'r awdurdod hwnnw, a'r rheini'n gynghorwyr yr awdurdod hwnnw, sydd â hawl i ddyfarndal am wasanaeth a roddwyd.
Hawl i ddyfarndaliadau am wasanaeth a roddwyd
4 
Wrth benderfynu pa aelodau sydd â hawl i ddyfarndal am wasanaeth a roddwyd yn unol â Rheoliad 3 rhaid i awdurdod —
(a) ei gwneud yn ofynnol bod aelod wedi treulio cyfnod cymhwyso;
(b) ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i aelod wneud cais ysgrifenedig i Bennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig am ddyfarndal am wasanaeth a roddwyd erbyn y dyddiad a benderfynir gan yr awdurdod a hwnnw'n ddyddiad nad yw'n hwyrach na phum wythnos ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym;
(c) ei gwneud yn ofynnol bod yr aelod yn aelod etholedig o'r awdurdod hwnnw ar y diwrnod sy'n dilyn y diwrnod olaf ar gyfer enwebiadau ar gyfer etholiad cyffredin cynghorwyr awdurdodau yn 2004;
(ch) sicrhau cyn iddo dalu dyfarndal am wasanaeth a roddwyd i aelod a gyflwynodd gais yn unol â pharagraff (b) ei fod wedi'i fodloni nad yw'r aelod ar ôl hynny wedi sefyll etholiad yn etholiadau 2004 ar gyfer awdurdodau; a
(d) sicrhau nad yw'r aelod hefyd yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Tŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi neu Senedd Ewrop.
Cyfrifo'r cyfnod cymhwyso
5 

(1) Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod cymhwyso yn unol â Rheoliad 4(a) rhaid i awdurdod, yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a bennir ym mharagraff (2), gymryd i ystyriaeth unrhyw gyfnodau o wasanaeth blaenorol p'un a oedd y cyfnodau hynny o wasanaeth blaenorol gyda'r awdurdod, unrhyw awdurdod arall neu unrhyw awdurdod rhagflaenol.
(2) Mae'r cyfyngiadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) fel a ganlyn —
(a) nid yw cyfnodau gwahardd dros dro i'w hystyried yn gyfnodau gwasanaeth;
(b) pan fydd cyfnodau o wasanaeth blaenorol gydag awdurdod rhagflaenol wedi'u treulio ar yr un pryd â mwy nag un awdurdod o'r fath, dim ond gwasanaeth gydag un gwasanaeth o'r fath sydd i'w gymryd i ystyriaeth.
(3) Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod cymhwyso yn unol â Rheoliad 4(a) pan oedd y gwasanaeth yn wasanaeth gydag awdurdod rhagflaenol y daeth ei fodolaeth i ben ar 31 Mawrth 1996, bernir mai un flwyddyn o wasanaeth yw'r cyfnod o wasanaeth o Fai 1995 tan 31 Mawrth 1996 ac eithrio yn achos aelod a oedd hefyd yn aelod o awdurdod ar 1 Ebrill 1996.
Diwygio Rheoliadau
6 
Ym mharagraff F o Atodlen 1 i Reoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001 (Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau etc.) ychwanegir —
(a) yng ngholofn (1) ar ôl 1 —“
 1A. Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau, lwfansau ac arian rhodd; a”; a
(b) yng ngholofn (2), o ran y cofnod yng ngholofn 1 ar gyfer eitem 1A —“
 Rheoliadau o dan adran 18(3A) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42);”.
7 
Ym mharagraff F o Atodlen 1 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 (Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau etc.) ychwanegir —
(a) yng ngholofn (1) ar ôl 1 —“
1A. 
Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau, lwfansau ac arian rhodd; a”; a
(b) yng ngholofn (2), o ran y cofnod yng ngholofn 1 ar gyfer eitem 1A —“
 Rheoliadau o dan adran 18(3A) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42);”).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Hydref 2003