
2003 Rhif 2661 (Cy.257)
BWYD, CYMRU
Gorchymyn Bwyd (Coed Anis o Drydydd Gwledydd) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Dirymu) 2003
Wedi'i wneud 14 Hydref 2003
Yn dod i rym 17 Hydref 2003

Gan ei bod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru nad yw mewnforio Coed Anis penodol a draddodir o wledydd nad ydynt yn Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd yn golygu bellach bod risg o niwed i iechyd ar fin digwydd;

Yn awr, gan hynny, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 13(1) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac sydd bellach yn arferadwy ganddo mewn perthynas â Chymru, ac ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwyd (Coed Anis o Drydydd Gwledydd) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Dirymu) 2003 a daw i rym ar 17 Hydref 2003 a bydd yn gymwys i Gymru'n unig.
Dirymu
2 
Caiff Gorchymyn Bwyd (Coed Anis o Drydydd Gwledydd) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2002 ei ddirymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Hydref 2003