
2003 Rhif 2528 (Cy.243) (C.95)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 12) (Cymru) 2003
Wedi'i wneud 1 Hydref 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 118(6) a 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 12) (Cymru) 2003.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “y Ddeddf ” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Dyddiau penodedig
2 
2 Hydref 2003 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol y Ddeddf—
(a) Adrannau 8, 9(1) a (2), 11 i 15, 17 i 21, 24, 26 i 32, 36 a 37 i'r graddau y mae eu darpariaethau'n ymwneud ag asiantaethau nyrsys ac nad ydynt eisoes mewn grym;
(b) is-adran (1) o adran 111, ac is-adran (2) o'r adran honno i'r graddau y mae'n hepgor, yn adran 13 o Ddeddf Cyflogaeth Asiantaethau 1973, baragraffau (b) ac (c) o is-adran (7) a'r amod sydd ynddi;
(c) adran 117(2) o, ac Atodlen 6 i'r Ddeddf, i'r graddau y maent yn ymwneud â Deddf Asiantaethau Nyrsys 1957 a Deddf Cyflogaeth Asiantaethau 1973.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Hydref 2003