
2003 Rhif 2458 (Cy.240)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud 24 Medi 2003
Yn dod i rym 25 Medi 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 218(1)(a), (2) a (2A), 232(5) a (6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 218(2AA):
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
–
(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 25 Medi 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Cymru) 1999
2 
–
(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Cymru) 1999) fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan I o Atodlen 3 –
(a) ym mharagraff 1(1)(b), (ba), (2) a (2A) rhodder y geiriau “paragraffau 2, 2A, 3” yn lle'r geiriau “paragraffau 2” ym mhob man lle maent yn digwydd;
(b) ym mharagraff 2(2), ar ôl y geiriau “y paragraff hwn” mewnosoder y geiriau “a pharagraff 2A”; ac
(c) mewnosoder y paragraff canlynol ar ôl paragraff 2 –“
2A. 
Mae'r person –
(a) yn dal gradd neu gymhwysiad cyfatebol a roddwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu radd neu gymhwysiad arall cyfatebol a roddwyd gan sefydliad estron; a
(b) wedi cwblhau cwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon mewn sefydliad sydd wedi ei achredu at ddibenion Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Lloegr) 1999, ac y dechreuodd y cwrs hwnnw cyn 1 Awst 2003; ac
(c) wedi cyflawni unrhyw gyfnod o brofiad addysgu ymarferol at ddibenion y cwrs hwnnw o hyfforddiant cychwynnol i athrawon yn gyfan gwbl neu'n bennaf mewn ysgol, ysgol annibynnol neu sefydliad arall (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion) yng Nghymru.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Dafydd Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Medi 2003