
2003 Rhif 2292 (Cy.228)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Bwyd (Ffigys, Cnau Cyll a Chnau Pistasio o Dwrci) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Diwygio) 2003
Wedi'u gwneud 5 Medi 2003
Yn dod i rym 6 Medi 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Ffigys, Cnau Cyll a Chnau Pistasio o Dwrci) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 6 Medi 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau Bwyd (Ffigys, Cnau Cyll a Chnau Pistasio o Dwrci) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002
2 

(1) Diwygir paragraff (1) o reoliad 2 (dehongli) i Reoliadau Bwyd (Ffigys, Cnau Cyll a Chnau Pistasio o Dwrci) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn lle'r diffiniad o “the Commission Decision”, rhodder y diffiniad a ganlyn —“
 “the Commission Decision” means Commission Decision 2002/80/EC imposing special conditions on the import of figs, hazelnuts and pistachios and certain products derived thereof originating in or consigned from Turkey as amended by Commission Decision 2002/233/EC, Commission Decision 2002/679/EC and Commission Decision 2003/552/EC);”.
(3) Yn lle paragraff (4) o reoliad 4 rhoddir y paragraff a ganlyn —“
(4) The requirements are those specified in —
(a) Article 1.4 of the Commission Decision (which is concerned with documentary checks relating to consignments of controlled Turkish products);
(b) Article 1.5 and 1.6 of that Decision (which provisions are concerned with the sampling and analysis of such consignments), other than the requirement under Article 1.5 to supply the Commission with specified information; and
(c) Article 1.7 of that Decision (which is concerned with the case where consignments are split).”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
5 Medi 2003