
2003 Rhif 1976 (Cy.215)
GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud 31 Gorffennaf 2003
Yn dod i rym 1 Awst 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 15(1), 35(1), 36(1) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Awst 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992
2 
Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 (“y prif Reoliadau”) yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.
Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau
3 
Yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli) —
(a) ym mharagraff (1) rhodder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor —“
 “local health board” has the meaning assigned to it by section 16BA of the Act;”;
(b) ym mharagraff (1A) yn lle “health authority” rhodder “local health board”.”
(c) Ar ôl paragraff (1A) mewnosoder y paragraff canlynol —“
“(1B) In the application of these Regulations in relation to Wales “Health Authority” shall, in each place where these words occur, have effect as if there were substituted the words “local health board”.”.
Diwygio rheoliad 19 o'r prif Reoliadau
4 
Yn rheoliad 19 o'r prif Reoliadau (Datganiad o Daliadau Deintyddol) ar ddiwedd y Tabl o dan baragraff (1) rhodder —
(a) yng ngholofn (1) y Rhif olion Rhufeinig “XI” ac “XII”, a
(b) yng ngholofn (2) “Paternity Payments” ac “Adoptive Leave Payments”.
Diwygio Atodlen 4 i'r prif Reoliadau
5 
Yn Rhan II o Atodlen 4 i'r prif Reoliadau (triniaeth cymeradwyaeth ymlaen llaw), ym mhob un o baragraffau 1 a 2, yn lle “£375” rhodder “£390”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Rhodri Morgan
Prif Weinidog Cymru
31 Gorffennaf 2003