
2003 Rhif 1856 (Cy.206)
CAFFAEL TIR, CYMRU
Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud 16 Gorffennaf 2003
Yn dod i rym 1 Medi 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 30(5) o Ddeddf Iawndal Tir 1973 (“y Ddeddf”) ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2003 ac maent yn dod i rym ar 1 Medi 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Symiau taliad colli cartref diwygiedig
2 
Pan fydd y dyddiad disodli ar y dydd y daw'r Rheoliadau i rym neu wedi hynny—
(a) yr uchafswm taliad colli cartref rhagnodedig at bwrpas adran 30(1) o'r Ddeddf yw £31,000;
(b) yr isafswm taliad colli cartref rhagnodedig at bwrpas adran 30(1) o'r Ddeddf yw £3,100; ac
(c) swm y taliad colli cartref rhagnodedig at bwrpas adran 30(2) o'r Ddeddf yw £3,100.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Gorffennaf 2003