
2003 Rhif 1855 (Cy.205)
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRUCADWRAETH PYSGOD MÔR
Gorchymyn Gwahardd Pysgota â Threillrwydi Lluosog (Cymru) 2003
Wedi'i wneud 16 Gorffennaf 2003
Yn dod i rym 1 Awst 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 5(1) a 15(3) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967, ac a freinir ynddo bellach,a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Teitl, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwahardd Pysgota â Threillrwydi Lluosog (Cymru) 2003.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru ac yn dod i rym ar 1 Awst 2003.
(3) Yn y Gorchymyn hwn mae i “Gymru” yr un ystyr â “Wales” yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2002 ac mae “dyfroedd Cymru” i'w ddehongli yn unol â hynny.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967;
 ystyr “Gorchymyn cyfatebol” (“equivalent Order”) yw Gorchymyn sy'n gymwys i Loegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban ac sydd wedi'i wneud o dan adran 5 o'r Ddeddf, yn unol ag Erthygl 46 o Reoliad y Cyngor, ac sy'n gwahardd pysgota ag unrhyw dreillrwyd ac eithrio treillrwyd unigol;
 ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 dyddiedig 30 Mawrth 1998 ar gyfer cadw adnoddau pysgodfeydd drwy gyfrwng mesurau technegol i amddiffyn organeddau morol ifanc fel y'i cywirwyd gan y Corigendwm i Atodiad XII i Reoliad y Cyngor ac fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 308/1999), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1459/1999, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2723/1999), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 812/2000 a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1298/2000;
 ystyr “rhwyd” (“net”) yw treillrwyd, Rhwyd Sân Danaidd neu rwyd lusg tebyg;
 ystyr “treill-long drawst” (“beam trawler”) yw cwch pysgota sydd, i'r graddau y mae'n cario neu'n defnyddio rhwydi, ond yn cario neu'n defnyddio rhwydi sydd wedi'u dylunio i gael eu llusgo ar hyd gwely'r môr ac y mae eu genau wedi'u hestyn â thrawst, bar neu ddyfais anhyblyg arall;
 ystyr “treillrwyd unigol” (“single trawl”) yw rhwyd unigol sy'n cael ei lusgo â rig dau ystof lle mae gan y rhwyd rhaff waelod un-gofl (a'r gofl yw'r rhan ganolog o'r dreillrwyd rhwng yr esgyll isaf), a lle mae'r rhaff waelod wedi'i chysylltu â'r rig llusgo ym mhen pob asgell a lle nad oes unrhyw gysylltiad arall, gan gynnwys ffrwynau, gwifrau neu raffau, yn ei chysylltu â'r rig llusgo a enwyd;ac mae i unrhyw ymadrodd cyfatebol arall a ddefnyddir yn Rheoliad y Cyngor yr un ystyr yn y Gorchymyn hwn ag yn y Rheoliad hwnnw.
Gwahardd dull pysgota
3 

(1)  Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, gwaherddir pysgota gan unrhyw gwch pysgota Prydeinig yn nyfroedd Cymru ag unrhyw dreillrwyd ac eithrio treillrwyd unigol.
(2) Nid yw paragraff (1) uchod yn gymwys —
(a) i unrhyw dreill-long drawst;
(b) i bysgota â threillrwyd nad yw maint ei fasgl yn llai nag 80 milimetr.
Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas â chychod pysgota
4 

(1)  Er mwyn gorfodi'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw Orchymyn cyfatebol, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan baragraffau (2) i (4) o'r erthygl hon mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota Prydeinig yn nyfroedd Cymru.
(2) Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda phersonau a neilltuwyd i gynorthwyo gyda'i ddyletswyddau neu hebddynt, a chaiff ei gwneud yn ofynnol bod y cwch yn cael ei stopio a gwneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso naill ai mynd ar fwrdd y cwch neu fynd oddi arno.
(3) Caiff y swyddog ei gwneud yn ofynnol bod y meistr a phersonau eraill sydd ar fwrdd y cwch yn bresennol a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiadau sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol at y diben a grybwyllir ym mharagraff (1) o'r erthygl hon ac, yn benodol —
(a) caiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch ac offer y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a'i gwneud yn ofynnol bod personau sydd ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwiliad;
(b) caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn cyflwyno unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r cwch, ag unrhyw weithrediadau pysgota neu weithrediadau ategol iddynt neu â'r personau sydd ar fwrdd y cwch sydd yng nghadwraeth neu feddiant y person hwnnw;
(c) er mwyn canfod a yw meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni tramgwydd o dan adran 5(1) neu (6) o'r Ddeddf o'i darllen gyda'r Gorchymyn hwn neu unrhyw Orchymyn cyfatebol, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a gall ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r chwilio; ac
(ch) os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd perthnasol wedi'i chyflawni mewn perthynas â'r cwch, caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir neu y deuir o hyd iddi ar fwrdd y cwch er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos ynglŷn â'r tramgwydd;
ond nid oes dim yn is-baragraff (ch) uchod yn caniatáu i unrhyw ddogfen y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch gael ei chipio a'i chadw ac eithrio tra bydd y cwch yn cael ei gadw mewn porthladd.
(4) Os yw'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod y Gorchymyn hwn wedi'i dorri ar unrhyw adeg, caiff y swyddog —
(a) ei gwneud yn ofynnol bod meistr y cwch y credir y torrwyd y gorchymyn mewn perthynas ag ef yn mynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd sy'n ymddangos i'r swyddog fel y porthladd cyfleus agosaf, neu caiff y swyddog wneud hynny ei hun; a
(b) cadw'r cwch yn y porthladd neu ei gwneud yn ofynnol bod y meistr yn ei gadw yn y porthladd;
a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw cwch neu'n ei gwneud yn ofynnol cadw cwch rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y caiff y cwch ei gadw neu ei bod yn ofynnol ei gadw hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
Diddymu
5 
Diddymir drwy hyn Orchymyn Cimychiaid Norwy (Gwahardd Dull Pysgota) 1993, i'r graddau y mae'n effeithiol mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Gorffennaf 2003