
2003 Rhif 1850 (Cy.200)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud 16 Gorffennaf 2003
Yn dod i rym
Rheoliadau 1,2,3,4,5,7,8,9, ac 11 a 13 i 20 1 Awst 2003
Rheoliadau 6,10 a 12 6 Tachwedd 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 66(1), a 68(1) ac (1A), 69(1), 74A, 75(1), 76(1), ac 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 (fel y'i darllenir ar y cyd â rheoliad 14 o Reoliadau Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (Darpariaethau ac Arbedion Trosiannol a Chanlyniadol) (Cymru a Lloegr) 2000 ac erthyglau 2 a 6 o Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002), ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan adran 84(1) o'r Ddeddf honno a chan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n nodi egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn nodi'r gweithdrefnau ym materion diogelwch bwyd), ac yntau wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, wrth arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran olaf hon (i'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn o dan Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 a nodir yn benodol uchod), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003 a byddant yn gymwys i Gymru'n unig.
(2) Bydd rheoliadau 1, 2, 3, 4, 5, 7, 8, 9 ac11 a 13 i 20 yn dod i rym ar 1 Awst 2003 a bydd rheoliadau 6, 10 a 12 yn dod i rym ar 6 Tachwedd 2003.
Diwygiadau i Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001
2 
Caiff Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 12.
3 
Yn rheoliad 2 (dehongli) —
(a) ym mharagraff (1) —
(i) caiff y diffiniadau canlynol eu dileu —(aa) unrhyw ddiffiniad rai yn cychwyn â'r ymadrodd “sefydliadau a gymeradwywyd gan y CE”, “sefydliadau a ganiateir gan y CE”, “sefydliadau a gymeradwywyd gan Ardal Economaidd Ewropeaidd”, “sefydliadau a ganiateir gan Ardal Economaidd Ewropeaidd” “sefydliadau a gymeradwywyd gan y DU” neu “sefydliadau a ganiateir gan y DU”,(bb) “rhestr genedlaethol”, a(cc) “trydedd wlad”,
(ii) ym mhob un o'r diffiniadau o “porthiant cydategol”, “porthiant cyflawn”, yn lle'r ymadrodd “rheoliad 12(10)(a)” rhodder yr ymadrodd “rheoliad 12(6)” ac yn y diffiniad o “porthiant”, yn lle'r ymadrodd “rheoliad 12(11)(a)” rhodder yr ymadrodd “rheoliad 12(7)”,
(iii) yn lle'r diffiniad o “porthiant cyfansawdd caiff y diffiniad canlynol ei roi“
 mae i “porthiant cyfansawdd” yr ystyr a roddir i “compound feeding stuff” yn y Gyfarwyddeb Porthiant Cyfansawdd;”,
(iv) yn y diffiniad o “deunydd porthiant” caiff yr ymadrodd “, yn ddarostyngedig i reoliad 12(10)(b),” ei ddileu,
(v) yn union ar ôl y diffiniad o “cynnyrch canolraddol awdurdodedig” caiff y diffiniad canlynol ei fewnosod —“
 ystyr “cynnyrch y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwydydd anifeiliaid” yw unrhyw gynnyrch a ddefnyddir neu y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwydydd i anifail anwes, creaduriaid a ffermir neu anifeiliaid sy'n byw yn rhydd yn y gwyllt;”,
(vi) yn lle'r diffiniad o “rhoi mewn cylchrediad” caiff y diffiniad canlynol ei roi“
 ystyr “rhoi mewn cylchrediad” yw gwerthu neu drosglwyddo fel arall, cael yn eich meddiant gyda'r bwriad o werthu neu drosglwyddo fel arall, neu gynnig ar werth, a hynny ym mhob achos i drydydd parti, ond ei ystyr hefyd yn rheoliad 12 yw mewnforio i Gymru o wlad nad yw'n un o Wladwriaethau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd nac yn rhan o un o Wladwriaethau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd;” a
(vii) yn union ar ôl y diffiniad o “starts” caiff y diffiniad canlynol ei fewnosod —“
 ystyr “sylwedd annymunol” yw unrhyw sylwedd neu gynnyrch, nad yw'n asiant pathogenaidd ac sy'n cael ei gynnwys mewn cynnyrch y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwydydd anifeiliaid neu sydd arno ac—
(a) sydd â'r potensial i fod yn beryglus i iechyd anifeiliaid neu iechyd dynol neu i'r amgylchedd; neu
(b) a allai effeithio'n andwyol ar gynhyrchu da byw;”; a
(b) yn lle paragraff (8) (terfynau amrywiad) caiff y paragraff canlynol ei roi —“
(8) Caiff unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at un o Offerynnau'r Gymuned ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y gwneir Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003.”.
4 
Yn lle paragraff (1) o reoliad 7 (terfynau amrywiad) caiff y paragraff canlynol ei roi —“
(1) Bydd Adran 74(2) yn effeithiol fel pe mewnosodid ar ôl y geiriau “y Rhan hon o'r Ddeddf hon”, y geiriau “neu Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2001 , Rheoliadau Porthiant a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2001, Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2002 Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2003) a'r Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003.”.
5 
Yn lle rheoliad 12 (rheoli porthiant a deunyddiau porthiant sy'n cynnwys sylweddau annymunol) caiff y rheoliad canlynol ei roi—“
Rheoli cynhyrchion sy'n cynnwys sylweddau annymunol ac y bwriedir eu defnyddio ar gyfer bwydydd anifeiliaid
14. 

(1) Ni chaiff unrhyw berson—
(a) roi mewn cylchrediad unrhyw gynnyrch y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwydydd anifeiliaid ac a nodir yn benodol yng ngholofn 2 o Ran I o Atodlen 7; neu
(b) defnyddio unrhyw gynnyrch o'r fath ar gyfer bwydydd anifeiliaid,
os yw'n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a nodir yn benodol yng ngholofn 1 o'r Rhan honno dros ben y lefel a nodir yn benodol ar ei gyfer yng ngholofn 3 o'r Rhan honno.
(2) Ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad unrhyw borthiant cydategol, na'i ddefnyddio fel porthiant—
(a) o ystyried faint ohono y cymeradwyir ei ddefnyddio mewn dogn ddyddiol, os yw'n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a nodir yn benodol yng ngholofn 1 o Ran I o Atodlen 7 dros ben y lefel a nodir yn benodol ar ei gyfer yng ngholofn 3 o'r Rhan honno mewn perthynas â phorthiant cyflawn; a
(b) os nad oes darpariaeth yn ymwneud ag unrhyw borthiant cydategol yn y cofnod sy'n cyfateb yng ngholofn 2 o'r Rhan honno.
(3) Ni chaiff unrhyw berson gymysgu unrhyw gynnyrch y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwydydd anifeiliaid ac a nodir yn benodol yng ngholofn 2 o Ran I o Atodlen 7 ac sy'n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a nodir yn benodol yng ngholofn 1 o'r Rhan honno dros ben y lefel a nodir yn benodol ar ei gyfer yng ngholofn 3 o'r Rhan honno at ddibenion gwneud gwanediad ohono gydag unrhyw gynnyrch y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwydydd anifeiliaid.
(4) Ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad unrhyw gynnyrch y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwydydd anifeiliaid neu ddefnyddio unrhyw gynnyrch o'r fath ar gyfer bwydydd anifeiliaid oni bai—
(a) ei fod mewn cyflwr da ac yn ddilys; a
(b) ei fod o ansawdd werthadwy.
(5) At ddibenion paragraff (4) uchod, nid yw cynnyrch y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwydydd anifeiliaid ac a nodir yn benodol yng ngholofn 2 o Ran I o Atodlen 7 mewn cyflwr da, yn ddilys ac o ansawdd werthadwy os yw'n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a nodir yn benodol yng ngholofn 1 o'r Rhan honno dros ben y lefel a nodir yn benodol mewn perthynas ag ef yng ngholofn 3 o'r Rhan honno.
(6) At ddibenion paragraff (2) uchod ystyr “porthiant” yw—
(a) cynnyrch sy'n deillio o lysiau ac sydd yn ei gyflwr naturiol (pa un a yw'n ffres neu wedi'i gadw);
(b) cynnyrch sy'n deillio o brosesu cynnyrch o'r fath yn ddiwydiannol; neu
(c) sylwedd organig neu anorganig a ddefnyddir wrth ei hun neu mewn cymysgedd,
pa un a yw'n cynnwys ychwanegion ai peidio, i'w fwydo drwy'r geg i anifeiliaid anwes neu i anifeiliaid sy'n byw yn rhydd yn y gwyllt, a dehonglir “porthiant cydategol” a “phorthiant cyflawn” yn unol â hynny.”.
6 
Yn union ar ôl rheoliad 17 (rheoli porthiant a fwriedir at ddibenion maethiadol penodol, a darpariaethau atodol yn gysylltiedig â datganiad statudol) caiff y rheoliad canlynol ei fewnosod—“
Cyflenwi gwybodaeth mewn perthynas â phorthiant cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid anwes
17A. 
Pan fo person y cyflenwir iddo borthiant cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid anwes yn gofyn hynny, rhaid i gyflenwr y porthiant cyfansawdd hwnnw ddarparu manylion y canrannau union mewn pwysau o ddeunyddiau porthiant a ddefnyddir yn y porthiant cyfansawdd hwnnw.”.
7 
Yn lle paragraff (1) o reoliad 24 (addasu adran 74A(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970) caiff y paragraff canlynol ei roi—“
(1) At ddibenion gorfodi a gweinyddu'r darpariaethau a nodir yn benodol ym mharagraff (2) isod bydd adran 74A(3) yn effeithiol fel pe rhoddid yn lle'r geiriau “rheoliadau o dan is-adran (1) uchod, neu bydd yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth arall o'r rheoliadau,” y geiriau “unrhyw ddarpariaeth a nodir yn benodol yn rheoliad 25(2) o Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2001, Rheoliadau Porthiant a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2001, Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2002, Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2003, Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddiad) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003”.
8 
Ym mharagraff (2) o reoliad 24 yn lle'r ymadrodd “12(3), (4), (6), (7) a (9), 13(1), 15, 16(1) a 17(1)” rhodder yr ymadrodd “12(1) i (4), 13(1), 15, 16(1), 17(1) ac 17A”.
9 
Yn Atodlen 3 (ychwanegion a ganiateir a darpariaethau'n ymwneud â'u defnyddio) yn lle'r rhestr o Reoliadau'r Gymuned Ewropeaidd a nodir yn benodol yn Rhan IX o'r Tabl (Rheoliadau'r Gymuned Ewropeaidd y rheolir ychwanegion drwyddynt) caiff y rhestr o Reoliadau'r Gymuned Ewropeaidd a nodir yn benodol yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn ei rhoi.
10 
Yn Atodlen 4 (cynnwys y datganiad statudol neu ddatganiad arall (ac eithrio ychwanegion a rhag-gymysgeddau na chânt eu cynnwys mewn porthiant)) —
(a) caiff paragraff 14(1)(c) ei ddileu;
(b) ym mharagraff 15 —
(i) caiff y gair “a”, lle y mae'n ymddangos ar ddiwedd is-baragraff (b), ei ddileu,
(ii) yn lle is-baragraff (c) caiff yr is-baragraff canlynol ei roi“
(c) Rhif cyfeirnod y sypyn; a” a
(iii) yn union ar ôl is-baragraff (c) caiff yr is-baragraff canlynol ei fewnosod —“
(ch) Rhif cymeradwyo neu gofrestru a ddyrannwyd yn unol ag Erthygl 5 neu 10, yn ôl y digwydd, o Gyfarwyddeb Sefydliadau i'r sefydliadau a wnaeth weithgynhyrchu'r porthiant cyfansawdd;”; a
(c) yn lle paragraff 19 caiff y paragraff canlynol ei roi —“
19. 
Yn achos unrhyw borthiant cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid anwes
(a) rhaid datgelu'r holl ddeunyddiau porthiant yn y datganiad statudol —
(i) wrth eu henwau penodol, a
(ii) gan ddynodi, mewn trefn ddisgynnol, beth mewn pwysau yw canran pob deunydd porthiant a gaiff ei gynnwys yn y porthiant cyfansawdd, yn ddarostyngedig i derfyn amrywiad o +/− 15% mewn perthynas â phob canran a ddatganwyd; a
(b) caiff y datganiad statudol gynnwys y datganiad canlynol —“
 Gellir cael y ganran union mewn pwysau o'r deunyddiau porthiant a ddefnyddir yn y porthiant hwn gan … (enw neu enw masnach, cyfeiriad neu swyddfa gofrestredig, Rhif ffôn a chyfeiriad e-bost cyflenwr y porthiant cyfansawdd).”.”
11 
Yn Atodlen 7 (terfynau a ragnodwyd ar gyfer sylweddau annymunol) —
(a) yn Rhan I (porthiant) yn lle'r penawdau i golofn 1 a cholofn 2 rhodder y penawdau “Sylweddau Annymunol” a “Cynhyrchion y bwriedir eu defnyddio mewn bwydydd anifeiliaid” yn y drefn honno; a
(b) Caiff Rhan II (deunyddiau porthiant) ei dileu.
12 
Caiff Rhan II o Atodlen 10 (categorïau o ddeunyddiau porthiant i'w defnyddio mewn perthynas â phorthiant cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid anwes) ei dileu.
Diwygiadau i Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999
13 
Caiff Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 eu diwygio i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru yn unol â rheoliadau 14 a 15.
14 
Yn Rhan I o Atodlen 2 (dulliau dadansoddi) ym mharagraff 3(e)(ii) yn lle'r ymadrodd “and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002” rhodder yr ymadrodd “, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003 and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003”.
15 
Yn Rhan II o Atodlen 3 (ffurflen tystysgrif dadansoddiad) yn nodyn (11)(a) yn lle'r ymadrodd “and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002” rhodder yr ymadrodd “, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003 and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003”.
Diwygiadau i Reoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999
16 
Caiff Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 eu diwygio i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru yn unol â rheoliadau 17 i 20.
17 
Yn rheoliad 7 (addasu Deddf Amaethyddiaeth 1970 at ddibenion penodol) —
(a) yn lle paragraff (2) caiff y paragraff canlynol ei roi —“
(2) The purpose referred to in paragraph (1) is the enforcement and administration of —
(a) the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001 as amended by the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003 and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003, as read with Part IV of the Act; and
(b) sections 73 and 73A of the Act.”; a
(b) yn lle paragraff (4) caiff y paragraff canlynol ei roi —“
(4) The purpose referred to in paragraph (3) is the enforcement and administration of —
(a) the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001 as amended by the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003 and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003, as read with Part IV of the Act; and
(b) sections 73 and 73A of the Act.”.
18 
Ym mhob un o reoliadau 11, 11A ac 11B yn lle'r ymadrodd “and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003” rhodder yr ymadrodd “, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003 and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003”.
19 
Yn y fersiwn a addaswyd o is-adran (8) o adran 67 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 a nodir yn rheoliad 9 yn lle'r ymadrodd “and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002” rhodder yr ymadrodd “, the Feeding Stuffs (Amendmwnt (Wales) Regulations 2002, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003 and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003”.
20 
Yn rheoliad 10 (addasu adran 76 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970) yn lle'r fersiwn a addaswyd o is-adran (17) o adran 76 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 a nodir yn y rheoliad hwnnw caiff yr -is-adran ganlynol ei rhoi“
(17) In this section —
 “compound feeding stuff” has the meaning given in regulation 2(1) of the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001 as amended by the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003 and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003;
 “controlled product” means any feeding stuff, substance or product which is subject to any of the controls contained in the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001 as amended by the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003 and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003, as read with this Part of this Act, or in sections 73 or 73A of this Act;
 “feeding stuff which is intended for a particular nutritional purpose” shall be construed in accordance with the definitions of “feeding stuff intended for a particular nutritional purpose” and “particular nutritional purpose” in regulation 2(1) of the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001 as amended by the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002, the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003 and the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2003;
 “premises” include any land, vehicle, vessel, aircraft or hovercraft; and
 “put into circulation” means sell or otherwise supply, or have in possession with a view to selling or otherwise supplying.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Gorffennaf 2003
ATODLEN
RHESTR O REOLIADAU'R GYMUNED EWROPEAIDD A RODDIR YN LLE'R RHESTR O REOLIADAU'R GYMUNED EWROPEAIDD A NODIR YN BENODOL YN RHAN IX O'R TABL YN ATODLEN 3 I REOLIADAU PORTHIANT (CYMRU) 2001
Rheoliad 9


 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2316/98 yn ymwneud ag awdurdodi ychwanegion newydd ac addasu'r amodau ar gyfer awdurdodi nifer o ychwanegion a awdurdodwyd eisoes mewn porthiant.
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1594/1999 sy'n diwygio'r amodau ar gyfer awdurdodi ychwanegyn mewn porthiant.
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2439/1999 ar yr amodau ar gyfer awdurdodi ychwanegion sy'n perthyn i'r grwp “binders, anti-caking agents a coagulants” mewn porthiant.
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1353/2000 sy'n ymwneud ag awdurdodi ychwanegyn yn barhaol ac ag awdurdodi dros dro ychwanegion newydd, ffyrdd newydd o ddefnyddio ychwanegion a pharatoadau newydd mewn porthiant.
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2437/2000 sy'n ymwneud ag awdurdodi ychwanegyn yn barhaol ac awdurdodi dros dro ychwanegion newydd mewn porthiant.
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2013/2001sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ffordd newydd o ddefnyddio ychwanegyn ac awdurdodi'n barhaol ychwanegyn mewn porthiant.
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2200/2001 sy'n ymwneud ag awdudodi dros dro ychwanegion mewn porthiant.
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 256/2002 sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ychwanegion newydd, estyn y cyfnod yr awdurdodwyd ychwanegyn dros dro ac awdurdodi ychwanegyn yn barhaol mewn porthiant.
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1252/2002 sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ychwanegyn newydd mewn porthiant).
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1876/2002 sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ffordd newydd o ddefnyddio ychwanegyn mewn porthiant ) .
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2188/2002 sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ffyrdd newydd o ddefnyddio ychwanegion mewn porthiant ) .
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 261/2003 sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ffyrdd newydd o ddefnyddio ychwanegion mewn porthiant ).
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 316/2003 sy'n ymwneud ag awdurdodi ychwanegyn yn barhaol mewn porthiant ac awdurdodi dros dro ychwanegyn a awdurdodwyd eisoes mewn porthiant).
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 666/2003 sy'n awdurdodi dros dro ddefnyddio rhai micro-organeddau mewn porthiant).
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 668/2003 sy'n ymwneud ag awdurdodi'n barhaol ychwanegyn mewn porthiant).
