
2003 Rhif 1849 (Cy.199)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) (Diwygio) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud 16 Gorffennaf 2003
Yn dod i rym 18 Gorffennaf 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(c), (d) ac (f), 26(3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 a pharagraff o Atodlen 1 iddi ac a freiniwyd ynddo bellach ac yntau wedi parchu yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar faterion diogelwch bwyd ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Teitl, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) (Diwygio) (Cymru) 2003; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 18 Gorffennaf 2003.
Diwygio Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995
2 

(1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995) yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)—
(a) yn lle'r diffiniad o “the 1992 Order” rhodder y diffiniad canlynol —“
 “the 1999 Order” means the Animal By-Products Order 1999;”;
(b) mewnosoder y diffiniad canlynol rhwng y diffiniad o “animal by-products premises” a'r diffiniad o “carcase” —“
 “approved premises” means premises which are approved under article 7 of the 1999 Order;”; a
(c) dileer y diffiniad o “sterilised”.
(3) Ym mharagraff (1) o reoliad 3 (ystyr “animal by-product”) dileer y gair “direct”.
(4) Ym mharagraff (a) o reoliad 4 (cwmpas) dileer y geiriau “sterilisation or”.
(5) ym mharagraff (2) o reoliad 5 ( esemptiadau)
(a) dileer y geiriau “and sterilisation”;
(b) rhodder yr is-baragraff canlynol o flaen is-baragraff (a) —“
(a) poultry heads and feet which —
(i) have been subjected to a post-mortem veterinary inspection, and
(ii) during the course of the inspection did not show gross pathological lesions indicating disease communicable to man or animals;”.
(6) Ym mhob un o is-baragraffau (c) a (d) o baragraff (2) o reoliad 5 (esemptiadau) rhodder yr ymadrodd “the 1999 Order” yn lle'r ymadrodd “the 1992 Order.”
(7) Yn rheoliad 6 (sterileiddio a staenio sgil-gynhyrchion anifeliaid mewn storfeydd oer, tir ac adeiladau torri, cyfleusterau prosesu helgig neu ladd-dai) —
(a) yn y pennawd dileer y geiriau “sterilisation and”;
(b) ym mharagraff (1) dileer y geiriau “sterilised or”;
(c) dileer paragraff (2)(a);
(ch) ym mharagraff (2)(b) —
(i) dileer y gair “or” pan ymddangoso ar ddiwedd is-baragraff (i), a
(ii) ar ôl is-baragraff (ii) mewnosoder yr is-baragraff canlynol —“
(iii) is immediately moved, in the manner specified in paragraph (4), to approved premises for rendering there, or to premises which are adequately separated from the cold store, cutting premises, game processing facility or slaughterhouse concerned for incineration there in accordance with article 10 of the 1999 Order.”;
(d) dileer paragraff 2(c);
(dd) ym mharagraff (3) —
(i) rhodder yr ymadrodd “paragraph (2)(b) above” yn lle'r ymadrodd “paragraph (2)(a) or (b) above”, a
(ii) dileer yr ymadrodd “sterilised or, as the case may be,”; ac
(e) yn lle paragraff (4) rhodder y paragraff canlynol —“
(4) The manner is that the animal by-product is moved through a sealed and leak-proof pipe which connects the cold-store, cutting premises, game processing facility or slaughterhouse concerned directly with the relevant approved premises or, as the case may be, premises at which the animal by-product is to be incinerated.”.
(8) Yn rheoliad 7 (sterileiddio a staenio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ar dir ac mewn adeiladau sgil-gynhychion anifeiliaid) —
(a) yn y pennawd dileer y geiriau “sterilisation and”;
(b) ym mharagraff (1) —
(i) rhodder yr ymadrodd “paragraphs (2) and (3)” yn lle'r ymadrodd “paragraph (2)”, a
(ii)  dileer y geiriau “sterilised or”; a
(c) yn lle paragraffau (2) a (3), rhodder y paragraffau canlynol —“
(2) The duty imposed by paragraph (1) shall not apply in relation to any animal by-product which is immediately moved, in the manner specified in paragraph (3), to approved premises for rendering there, or to premises which are adequately separated from the animal by-products premises concerned for incineration there in accordance with article 10 of the 1999 Order.
(3) The manner is that the animal by-product is moved through a sealed and leak-proof pipe which connects the animal by-products premises concerned directly with the relevant approved premises or, as the case may be, premises at which the animal by-product is to be incinerated.”.
(9) Ym mharagraff (1) o reoliad 8 (rhewi sgil-gynhyrchion anifeilaidd ar unrhyw dir ac mewn unrhyw adeiladau sgil-gynhyrchion, storfa oer, tir ac adeiladau torri, cyfleuster prosesu helgig neu ladd-dy) dileer yr ymadrodd “sterilised or”.
(10) Ym mhob un o baragraffau (1) a (3) o reoliad 9 (storio a phacio sgil-gynhyrchion anifeiliaid) dileer y gair “unsterilised”.
(11) Ym mhob un o baragraffau (1) a (2) o reoliad 10 (cyfyngu ar symud sgil-gynhyrchion anifeiliaid) dileer yr ymadrodd “sterilised or”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Gorffennaf 2003