
2003 Rhif 1844 (Cy.196)
ANIFEILIAID, CYMRU
ATAL CREULONDEB
Gorchymyn Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) Diwygio (Cymru) 2003
Wedi'i wneud 16 Gorffennaf 2003
Yn dod i rym 18 Gorffennaf 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 1 o Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) 1954 ac a freiniwyd ynddo bellach, ar ôl ymgynghori â Choleg Brenhinol y Llawfeddygon Milfeddygol ac â'r personau hynny y mae'n ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu bod yn cynrychioli'r buddiannau amaethyddol, y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol eu bod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Teitl, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) Diwygio (Cymru) 2003, mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru a daw i rym ar 18 Gorffennaf 2003.
Diwygio Deddf Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) 1954
2 
Ym mharagraff 6 o Atodlen 1 (Gweithrediadau a Eithrir) i Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Anesthetyddion) 1954 yn lle'r geiriau “in Wales, 4 weeks” rhoddir “in Wales, 8 days”.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Gorffennaf 2003