
2003 Rhif 181 (Cy.31) (C.9)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gorchymyn Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2003
Wedi'i wneud 31 Ionawr 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 148(6) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002  drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2003.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Y diwrnod penodedig
2 
1 Chwefror 2003 yw'r diwrnod a benodwyd i adran 16 o'r Ddeddf ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Jenny Randerson
Y Gweindog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg.
31 Ionawr 2003