
2003 Rhif 1774 (Cy.191)
BWYD, CYMRU
Gorchymyn Diogelwch Bwyd (Llongau ac Awyrennau) (Cymru) 2003
Wedi'i wneud 15 Gorffennaf 2003
Yn dod i rym 31 Gorffennaf 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1(3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diogelwch Bwyd (Llongau ac Awyrennau) (Cymru) 2003; daw i rym ar 31 Gorffennaf 2003 ac mae'n gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2 

(1) Yn y Gorchymyn hwn —
 mae i “Cymru” yr ystyr a ddarperir ar gyfer “Wales” gan adran 155 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998;
 mae i “dyfroedd mewnol” yr ystyr a roddir i “internal waters” at ddibenion Erthygl 8(1) o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyfraith y Môr;
 ystyr “y Ddeddf (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
 ystyr “llong neu awyren esempt” (“exempt ship or aircraft”) yw unrhyw long neu awyren freintrydd sofran neu unrhyw long o Wladwriaeth heblaw'r Deyrnas Unedig sy'n arfer yr hawl i dramwyo'n ddiniwed drwy'r rhan honno o'r môr tiriogaethol o fewn Cymru ystyr “llong neu awyren freintrydd sofran” (“sovereign immune ship or aircraft”) yw unrhyw
 long neu awyren sy'n perthyn i Wladwriaeth heblaw'r Deyrnas Unedig na chaiff ei defnyddio at ddibenion masnachol;
 ystyr “llong sy'n mynd tuag adref” (“home-going ship”) yw llong sy'n ymwneud yn unig â'r canlynol —
(a) mynd a dod ar ddyfroedd mewnol, neu
(b) teithiau nad ydynt yn hwy na diwrnod, sy'n dechrau ac yn gorffen ym Mhrydain Fawr ac nad ydynt yn golygu galw yn unlle y tu allan i Brydain Fawr;
 mae i'r “môr tiriogaethol” yr ystyr a roddir i “territorial sea” at ddibenion Deddf Môr Tiriogaethol 1987;
 ystyr “y prif ddarpariaethau Rheoli Hylendid a Thymheredd” (“the principal Hygiene and Temperature Control provisions”) yw —
(a) Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) 1995 ac eithrio rheoliad 4A o Atodlen 1A i'r Rheoliadau hynny (trwyddedau i siopau cigyddion);
(b) Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Rheoli Tymheredd) 1995 ac eithrio rheoliadau 4 — 9 a 12 a Rhan III o'r Rheoliadau hynny.
 mae i “tramwyo'n ddiniwed” yr ystyr a roddir i “innocent passage” at ddibenion Rhan II Adran 3A o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyfraith y Môr.
Mae llongau ac awyrennau yn fangreoedd at ddibenion penodedig
3 
Mae “mangreoedd” yn cynnwys unrhyw long neu awyren o ddisgrifiad a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn at unrhyw ddiben a bennir mewn perthynas â'r llong neu'r awyren honno yn yr Atodlen honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Gorffennaf 2003
YR ATODLEN
Llongau ac awyrennau sy'n fangreoedd at ddibenion penodedig
Erthygl 3
1 
Unrhyw long sy'n mynd tuag adref at ddibenion cymhwyso'r Ddeddf ac unrhyw reoliadau a wneir odani.
2 
Unrhyw long neu awyren arall nad yw'n llong neu awyren esempt —
(a) at ddibenion sicrhau a oes yn y llong neu'r awyren unrhyw fwyd a fewnforir fel rhan o'r cargo yn groes i ddarpariaethau rheoliadau a wneir o dan Ran II o'r Ddeddf;
(b) at ddibenion cymhwyso'r prif ddarpariaethau Hylendid a Thymheredd; ac
(c) at ddibenion cymhwyso adrannau 11 a 12 o'r Ddeddf:ac mae cyfeiriadau at “premises” yn adran 2, 3, 29, 32 a 50 o'r Ddeddf yn cynnwys unrhyw long neu awyren o ddisgrifiad a bennir yn y paragraff hwn mewn perthynas ag unrhyw ddibenion a bennir yn y paragraff hwn a hefyd mewn perthynas ag adrannau 8 i 10 o'r Ddeddf.