
2003 Rhif 1720 (Cy.187)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) (Diwygio) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud 9 Gorffennaf 2003
Yn dod i rym 31 Gorffennaf 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 34(5) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ac sydd yn awr yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygio rheoliad 4 o Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) 1991
2 
Yn rheoliad 4 o Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) 1991 —
(a) yn lle'r geiriau “served by a waste regulation authority” rhodder “served by either a waste regulation authority or an authority which is a waste collection authority for the purposes of Part II of the 1990 Act”; a
(b) yn lle'r geiriau “furnish the authority with a copy of it at the authority’s office” rhodder “furnish that authority with a copy of it at that authority’s office”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 9 Gorffennaf 2003
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
