
2003 Rhif 1719 (Cy.186)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud 9 Gorffennaf 2003
Yn dod i rym 1 Awst 2005
Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor yn pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn pennu gweithdrefnau ynglyn â materion diogelwch bwyd ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003; deuant i rym ar 1 Awst 2005 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “Cyfarwyddeb 2002/46” (“Directive 2002/46”) yw Cyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor) ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau mewn perthynas ag ychwanegion bwyd;
 ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”) yw unrhyw berson sy'n prynu ac eithrio —
(a) at ddibenion ailwerthu;
(b) at ddibenion sefydliad arlwyo; neu
(c) at ddibenion busnes gweithgynhyrchu;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
 ystyr “ffurf dogn” (“dose form”) yw ffurf megis capsiwlau, pastiliau, tabledi, pils, a ffurfiau tebyg eraill, sachets powdr, ampylau hylifau, poteli sy'n dosbarthu diferion, a ffurfiau tebyg eraill ar hylifau neu bowdrau sydd wedi'u dylunio i gael eu cymryd mewn meintiau unedol bach sydd wedi'u mesur;
 mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddu gyda'r bwriad o werthu a chynnig, amlygu neu hysbysebu gyda'r bwriad o werthu;
 mae “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar brosesu neu drin;
 ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) os yw bwyd, wrth gynnal busnes, yn cael ei baratoi i'w gyflenwi i'r defnyddiwr olaf ac yn barod i'w fwyta heb baratoi pellach; ac
 ystyr “ychwanegyn bwyd” (“food supplement”) yw unrhyw fwyd sydd wedi'i fwriadu i ychwanegu at ddeiet normal ac sydd —
(a) yn ffynhonnell grynodedig o fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol, ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad; a
(b) yn cael ei werthu ar ffurf dogn.
(2) Rhaid ystyried bod ychwanegyn bwyd wedi'i ragbacio at ddibenion y Rheoliadau hyn —
(a) os yw'n barod i'w werthu i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo, a
(b) os yw wedi'i roi mewn pecyn cyn cael ei gynnig i'w werthu yn y fath fodd ag i beidio â chaniatáu newid yr ychwanegyn bwyd heb agor neu newid y pecyn.
(3) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac ar eu ffurf Saesneg yng Nghyfarwyddeb 2002/46 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn â'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Gyfarwyddeb honno.
Cwmpas y Rheoliadau
3 

(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ychwanegion bwyd sy'n cael eu gwerthu fel bwyd a'u cyflwyno fel y cyfryw.
(2) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion meddyginiaethol fel y'u diffinnir gan Gyfarwyddeb 2001/83/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar god y Gymuned ynglyn â chynhyrchion meddyginiaethol i bobl eu defnyddio.
Cyfyngiad ar y ffurf a ddefnyddir i werthu ychwanegion bwyd i'r defnyddiwr olaf
4 
Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd i'r defnyddiwr olaf oni bai ei fod wedi'i ragbacio.
Gwaharddiadau gwerthu sy'n ymwneud â chyfansoddiad ychwanegion bwyd
5 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd y mae fitamin neu fwyn wedi'i ddefnyddio wrth ei gynhyrchu oni bai bod y fitamin neu'r mwyn hwnnw—
(a) wedi'i restru yng ngolofn 1 o Atodlen 1; a
(b) ar ffurf sydd
(i) wedi'i rhestru yn Atodlen 2, a
(ii) yn bodloni'r meini prawf purdeb perthnasol.
(2) Y meini prawf purdeb perthnasol at ddibenion paragraff (1)(b)(ii) yw —
(a) y meini prawf purdeb, os o gwbl, a bennwyd drwy ddeddfwriaeth Gymunedol ar gyfer defnyddio'r sylwedd o dan sylw wrth gynhyrchu bwyd at ddibenion heblaw'r rhai y mae Cyfarwyddeb 2002/46 yn ymdrin â hwy; neu
(b) yn absenoldeb meini prawf purdeb o'r fath, y meini prawf purdeb sy'n dderbyniol yn gyffredinol ar gyfer y sylwedd o dan sylw ac sy'n cael eu hargymell gan gyrff rhyngwladol.
(3) Yn achos fitamin neu fwyn nad yw wedi'i restru yng ngholofn 1 o Atodlen 1 neu nad yw ar ffurf a restrir yn Atodlen 2, ni fydd y gwaharddiadau ym mharagraff (1) yn gymwys tan 1 Ionawr 2010 —
(a) os oedd y sylwedd o dan sylw yn cael ei ddefnyddio wrth gynhyrchu ychwanegyn bwyd a oedd ar werth yn y Gymuned Ewropeaidd ar 12 Gorffennaf 2002;
(b) os cafodd coflen yn cefnogi'r defnydd ar y sylwedd o dan sylw ei chyflwyno i'r Comisiwn gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd neu unrhyw Aelod-wladwriaeth arall erbyn 12 Gorffennaf 2005; ac
(c) nad yw'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd wedi rhoi barn anffafriol ynglyn â defnyddio'r sylwedd hwnnw, neu ar ei ddefnyddio ar y ffurf honno wrth gynhyrchu ychwanegion bwyd.
Cyfyngiadau ar werthu sy'n ymwneud â labelu etc ychwanegion bwyd
6 

(1) Ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os nad yw'r enw y mae'n cael ei werthu odano yn “ychwanegyn bwyd”.
(2) Heb ragfarnu Rheoliadau Labelu Bwyd 1996, ni chaiff neb werthu ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo oni bai ei fod wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r manylion canlynol —
(a) enw categori unrhyw fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol sy'n nodweddu'r cynnyrch neu fynegiant o natur y fitamin neu'r mwyn neu'r sylwedd arall;
(b) y gyfran o'r cynnyrch yr argymhellir ei bwyta'n ddyddiol;
(c) rhybudd i beidio â chymryd mwy na'r dogn dyddiol penodedig a argymhellir;
(ch) datganiad i'r perwyl na ddylid defnyddio ychwanegion bwyd yn lle deiet amrywiol;
(d) datganiad i'r perwyl y dylid storio'r cynnyrch y tu allan i gyrraedd plant bach; ac
(dd) faint o unrhyw fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol sy'n bresennol yn y cynnyrch.
(3) Rhaid i'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff (2)(dd) —
(a) cael ei rhoi ar ffurf Rhif au;
(b) cael ei rhoi yn achos fitamin neu fwyn a rhestrir yng ngholofn 1 o Atodlen 1, gael ei roi drwy ddefnyddio'r uned berthnasol a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno;
(c) datgan y swm fesul cyfran o'r cynnyrch fel yr argymhellir ei fwyta'n ddyddiol ar label y cynnyrch;
(ch) bod yn faint cyfartalog ar sail dadansoddiad y gweithgynhyrchydd o'r cynnyrch; a
(d) cael ei mynegi hefyd, yn achos fitamin neu fwyn a restrir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC ar labelu maethiad ar gyfer bwydydd, fel canran (y caniateir ei rhoi hefyd ar ffurf graff) o'r lwfans dyddiol perthnasol a argymhellir ac a bennir yn yr Atodiad hwnnw.
(4) Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os yw dull ei labelu, ei gyflwyno neu ei hysbysu yn cynnwys sôn, naill ai'n ddiamwys neu'n ymhlyg, na all deiet cytbwys ac amrywiol ddarparu meintiau priodol o fitaminau neu fwynau yn gyffredinol.
Dull marcio neu labelu
7 

(1) Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sydd
(a) yn barod i'w ddanfon i'r defnyddiwr olaf, neu
(b) yn barod i'w ddanfon i sefydliad arlwyo ac wedi'i ragbacio,
os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol ei farcio neu ei labelu â hwy o dan reoliad 6 (2) yn ymddangos —
(i) ar y pecyn;
(ii) ar label sydd ynghlwm wrth y pecyn; neu
(iii) ar label sydd i'w weld yn glir drwy'r pecyn,ac eithrio pan werthir i unrhyw un heblaw'r defnyddiwr olaf, y caiff y manylion hyn fel arall ymddangos ar y dogfennau masnachol ynglyn â'r ychwanegyn bwyd os oes modd gwarantu bod y dogfennau hynny, sy'n cynnwys y manylion hyn i gyd, naill ai gyda'r ychwanegyn bwyd y maent yn ymwneud ag ef neu wedi cael eu hanfon cyn i'r ychwanegyn bwyd gael ei anfon, neu'r un pryd â hynny ac ar yr amod bod y manylion sy'n ofynnol o dan reoliad 5(a), (c) ac (e) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 wedi'u marcio neu wedi'u labelu hefyd ar y pecyn allanol y mae'r ychwanegyn bwyd hwnnw wedi'i werthu gydag ef.
(2) Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon i sefydliad arlwyo ac nad yw wedi'i ragbacio os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol eu marcio neu eu labelu â hwy o dan reoliad 6(2) yn ymddangos —
(a) ar label sydd ynghlwm wrth yr ychwanegyn bwyd;
(b) ar docyn neu hysbysiad y mae'n hawdd i ddarpar brynwr ei ddirnad yn y man lle mae'n dewis yr ychwanegyn bwyd hwnnw; neu
(c) mewn dogfennau masnachol sy'n ymwneud â'r ychwanegyn bwyd os oes modd gwarantu bod y dogfennau yn naill ai gyda'r ychwanegyn bwyd y maent yn ymwneud ag ef neu wedi cael eu hanfon cyn hynny, neu'r un pryd ag anfon yr ychwanegyn bwyd hwnnw.
(3) Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os nad yw'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu ychwanegyn bwyd â hwy o dan reoliad 6(2) yn hawdd i'w deall, yn hollol ddarllenadwy, yn annileadwy a, phan fydd bwyd yn cael ei werthu i'r defnyddiwr olaf, rhaid i'r manylion hynny gael eu marcio mewn man amlwg mewn ffordd sy'n eu gwneud yn hawdd i'w gweld.
(4) Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd sy'n barod i'w ddanfon at y defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo os yw'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu'r ychwanegyn bwyd â hwy yn rhinwedd rheoliad 6(2) wedi'u cuddio neu wedi'u tywyllu mewn unrhyw ffordd neu os ymyrryd mewn unrhyw ffordd â'r manylion hynny ag unrhyw fater ysgrifenedig neu ddarluniadol arall.
Gorfodi
8 
Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
Tramgwyddau a chosbau
9 
Bydd unrhyw berson sy'n torri rheoliad 4, 5, 6 neu 7 yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Amddiffyniad mewn perthynas ag allforion
10 
Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir i brofi —
(a) bod y bwyd a honnir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag ef wedi'i fwriadu i'w allforio i wlad y mae ganddi ddeddfwriaeth gyfatebol i'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; a
(b) yn achos allforio i Aelod-wladwriaeth, bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â darpariaethau Cyfarwyddeb 2002/46.
Cymhwyso amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf
11 
Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y bydd unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni yn cael eu dehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
(a) adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);
(b) adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);
(c) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(ch) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15;
(d) adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi wrth gynnal busnes);
(dd) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(f) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofynion o'r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod;
(ff) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod;
(g) adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (f) uchod;
(ng) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(h) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Gorffennaf 2003
ATODLEN 1
FITAMINAU A MWYNAU Y CANIATEIR EU DEFNYDDIO WRTH GYNHYRCHU YCHWANEGION BWYD
Rheoliadau 5(1) a (3) a 6(3)(b)


Colofn 1 Colofn 2
Fitaminau a mwynau Uned
1. Fitaminau
Fitamin A μg RE
Fitamin D μg
Fitamin E mg α-TE
Fitamin K μg
Fitamin B1 mg
Fitamin B2 mg
Nïasin mg NE
Asid Pantothenig mg
Fitamin B6 mg
Asid ffolig μg
Fitamin B12 μg
Biotin μg
Fitamin C mg
2. Mwynau
Calsiwm mg
Magnesiwm mg
Haearn mg
Copr μg
Ïodin μg
Zinc mg
Manganîs mg
Sodiwm mg
Potasiwm mg
Seleniwm μg
Cromiwm μg
Molybdenwm μg
Fflworid mg
Clorid mg
Ffosfforws mg
ATODLEN 2
FFURF AR SYLWEDDAU FITAMIN A MWYN Y CANIATEIR EU DEFNYDDIO WRTH GYNHYRCHU YCHWANEGION BWYD
Rheoliad 5(1) a (3)
A. Fitaminau
1 
FITAMIN A
(a) retinol
(b) retinyl asetad
(c) retinyl palmitad
(ch) beta-caroten
2 
FITAMIN D
(a) colecalsifferol
(b) ergocalsifferol
3 
FITAMIN E
(a) D-alffa-tocofferol
(b) DL-alffa-tocofferol
(c) D-alffa-tocofferyl asetad
(ch) DL-alffa-tocofferyl asetad
(d) D-alffa-sycsinad asid tocofferyl
4 
FITAMIN K
(a) ffyllocwinon (ffytomenadion)
5 
FITAMIN B1
(a) thiamin hydroclorid
(b) thiamin mononitrad
6 
FITAMIN B2
(a) ribofflafin
(b) ribofflafin 5'-ffosffad, sodiwm
7 
NÏASIN
(a) asid nicotinig
(b) nicotinamid
8 
ASID PANTOTHENIG
(a) D-pantothenad, calsiwm
(b) D-pantothenad, sodiwm
(c) decspanthenol
9 
FITAMIN B6
(a) pyridocsin hydroclorid
(b) pyridocsin 5'-ffosffad
10 
ASID FFOLIG
(a) asid teroylmonoglwtamig
11 
FITAMIN B12
(a) cyanocobalamin
(b) hydrocsocobalamin
12 
BIOTIN
(a) D-biotin
13 
FITAMIN C
(a) L-asid asgorbig
(b) sodiwm-L-asgorbad
(c) calsiwm-L-asgorbad
(ch) potasiwm-L-asgorbad
(d) L-asgorbyl 6-palmitad
B. Mwynau

 Calsiwm carbonad
 Calsiwm clorid
 Halwynau calsiwm asid citrig
 Calsiwm glwconad
 Calsiwm glyseroffosffad
 Calsiwm lactad
 Halwynau calsiwm asid orthoffosfforig
 Calsiwm hydrocsid
 Calsiwm ocsid
 Magnesiwm asetad
 Magnesiwm carbonad
 Magnesiwm clorid
 Halwynau magnesiwm asid citrig
 Magnesiwm glwconad
 Magnesiwm glyseroffosffad
 Halwynau magnesiwm asid orthoffosfforig
 Magnesiwm lactad
 Magnesiwm hydrocsid
 Magnesiwm ocsid
 Magnesiwm sylffad
 Carbonad fferrus
 Citrad fferrus
 amoniwm citrad ferrig
 Glwconad fferrus
 Ffwmarad ferrus
 Sodiwm deuffosffad fferrig
 Lactad ferrus
 Sylffad fferrus
 Deuffosffad fferrig (pyroffosffad fferrig)
 Sacarad fferrig
 Haearn elfennaidd (carbonyl+electrolytig+wedi'i rydwytho â hydrogen)
 Carbonad cwprig
 Citrad cwprig
 Glwconad cwprig
 Sylffad cwprig
 Cymhlygyn lysîn copr
 Sodiwm ïodid
 Sodiwm ïodad
 Potasiwm ïodid
 Potasiwm ïodad
 Zinc asetad
 Zinc clorid
 Zinc citrad
 Zinc glwconad
 Zinc lactad
 Zinc ocsid
 Zinc carbonad
 Zinc sylffad
 Manganîs carbonad
 Manganîs clorid
 Manganîs citrad
 Manganîs glwconad
 Manganîs glyseroffosffad
 Manganîs sylffad
 Sodiwm bicarbonad
 Sodiwm carbonad
 Sodiwm clorid
 Sodiwm citrad
 Sodiwm glwconad
 Sodiwm lactad
 Sodiwm hydrocsid
 Halwynau sodiwm asid orthoffosfforig
 Potasiwm bicarbonad
 Potasiwm carbonad
 Potasiwm clorid
 Potasiwm citrad
 Potasiwm glwconad
 Potasiwm glyseroffosffad
 Potasiwm lactad
 Potasiwm hydrocsid
 Halwynau potasiwm asid orthoffosfforig
 Sodiwm selenad
 Sodiwm hydrogen selenit
 Sodiwm selenit
 Cromiwm (III) clorid
 Cromiwm (III) sylffad
 Amoniwm molybdad (molybdenwm (VI))
 Sodiwm molybdad (molybdenwm (VI))
 Potasiwm fflworid
 Sodiwm fflworid