
2003 Rhif 1715 (Cy.183)
TRETH GYNGOR, CYMRU
Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud 8 Gorffennaf 2003
Yn dod i rym 10 Gorffennaf 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 14(3) a 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a pharagraffau 1, 2, 3 ac 8 o Atodiad 4 iddi ac a freinir yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 10 Gorffennaf 2003.
Cymhwyso a Dehongli
2 

(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr y “Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992
Diwygio'r Prif Reoliadau
3 
Diwygir y Prif Reoliadau fel a ganlyn —
(a) yn rheoliad 35(1) hepgorir —
(i) “(in which case the order shall be in the form specified as Form A in Schedule 2, or a form to the like effect),”; a
(ii) “(in which case the order shall be in the form specified as Form B in that Schedule, or a form to the like effect)”;
(b) yn rheoliad 48(1) hepgorir “, and shall be in the form specified as Form C in Schedule 2, or in a form to the like effect”; a
(c) hepgorir Atodlen 2.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Gorffennaf 2003