
2003 Rhif 170 (Cy.30)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003
Wedi'i wneud 30 Ionawr 2003
Yn dod i rym 31 Ionawr 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a hwythau'n gweithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1 ac 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeilaid 1981, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Teitl, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003; mae'n gymwys i Gymru yn unig a daw i rym ar 31 Ionawr 2003.
Diwygio Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002
2 

(1) Diwygir Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 yn unol a'r erthygl hon.
(2) Yn erthygl 1(2) rhoddir “1 Tachwedd 2003” yn lle “1 Chwefror 2003”.
(3) Yn erthygl 3(1), yn y testun Cymraeg yn unig, rhoddir “Rhaid i berchennog neu geidwad unrhyw fochyn ar ddaliad hysbysu'n” yn lle “Rhaid i berchennog unrhyw fochyn ar ddaliad neu berson sydd â gofal drosto i hysbysu'n”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Ionawr 2003Whitty
Yr Is-Ysgrifennydd Seneddol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
30 Ionawr 2003