
2003 Rhif 168 (Cy.28)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003
Wedi'i wneud 30 Ionawr 2003
Yn dod i rym 31 Ionawr 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a hwythau'n gweithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 8 ac 83(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003; mae'n gymwys i Gymru yn unig ac yn dod i rym ar 31 Ionawr 2003.
Diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002
2 

(1) Diwygir Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 yn unol â'r erthygl hon.
(2) Yn erthygl 1, rhodder “1 Ebrill 2003” yn lle “1 Chwefror 2003”.
(3) Yn erthygl 3—
(a) ar ôl paragraff (2)(b)(xxi) ychwaneger y canlynol—“
(xxii) symudiad anifail sydd ar gyfrwng cludo sy'n mynd ar safle i ollwng anifeiliaid eraill, ar yr amod nad yw wedi ymadael â'r cyfrwng cludo tra bu ar y safle.”;
(b) ym mharagraff (3)(e)(iv) rhodder y gair “diweddaraf” yn lle “cynharaf”;
(c) yn lle paragraff (3)(ng) rhodder y paragraff canlynol—“
(ng) anifail o'i bwynt mynediad i'r Deyrnas Unedig ar ôl cael ei fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall;”.
(4) Yn lle erthygl 8 rhodder yr erthygl ganlynol—“
Cyfleusterau glanhau a diheintio
8. 
Pan symudir anifeiliaid o dan drwydded, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwynt iddo ddarparu cyfleusterau, cyfarpar a deunyddiau digonol ar gyfer unrhyw waith glanhau a diheintio sy'n ofynnol o dan y drwydded.
Trwyddedau penodol
8A. 

(1) Rhaid i anifail a symudir o dan drwydded benodol—
(a) gael ei symud ar hyd y llwybr mwyaf uniongyrchol sydd ar gael i'r gyrchfan a bennir yn y drwydded, a
(b) bod y drwydded gydag ef drwy gydol y symudiad.
(2) Rhaid i bob anifail a symudir o dan awdurdod trwydded benodol gael ei gadw ar wahân, drwy gydol y symudiad, i unrhyw anifail nas symudir o dan awdurdod y drwydded honno.
(3) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am unrhyw anifail a symudir o dan drwydded benodol, os myn cwnstabl neu arolygydd neu unrhyw un arall o swyddogion yr Ysgrifennydd Gwladol neu awdurdod lleol, ddangos y drwydded, a chaniatáu i gopi neu ddetholiad ohoni gael ei gymryd, a rhaid iddo hefyd, os gofynnir iddo wneud, roi ei enw a'i gyfeiriad.
(4) Pan symudir anifeiliaid o dan drwydded benodol, yna, oni bai i'r drwydded ddarparu fel arall, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwynt iddo—
(a) sicrhau y rhoddir y drwydded iddo ef neu i'w gynrychiolydd cyn caniatáu i'r anifeiliaid gael eu dadlwytho;
(b) yn achos lladd-dy, roi copi i'r llawfeddyg milfeddygol swyddogol; ac
(c) cadw'r drwydded am chwe mis a'i dangos i arolygydd os gofynnir amdani.
Trwyddedau cyffredinol
8B. 
Pan symudir anifeiliaid o dan drwydded gyffredinol, ac mae'r drwydded yn ei gwneud yn ofynnol i'r person sy'n symud yr anifeiliaid fod â dogfen symud, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwynt iddo—
(a) sicrhau y rhoddir iddo ef neu i'w gynrychiolydd y copi uchaf o'r ddogfen symud cyn caniatáu dadlwytho'r anifeiliaid;
(b) llenwi'r copi uchaf i ddangos ei fod ef wedi cael yr anifeiliaid, ei lofnodi, a'i anfon i'r awdurdod lleol yn ddi-oed; a
(c) cadw copi o'r ddogfen wedi ei llenwi am chwe mis.
Copïau o drwyddedau
8C. 
Pan fydd arolygydd awdurdod lleol yn dyroddi trwydded o dan erthygl 3(1)(a), rhaid iddo gadw copi o'r drwydded am chwe mis.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Ionawr 2003Whitty
Yr Is-Ysgrifennydd Seneddol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
30 Ionawr 2003