
2003 Rhif 1634 (Cy.176)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) (Diwygio) 2003
Wedi'u gwneud 24 Mehefin 2003
Yn dod i rym 25 Mehefin 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9(2), 9(3) a 9(5) o Ddeddf Mabwysiadu 1976 a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw.
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) (Diwygio) 2003.
(2) Mae'r rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Mehefin 2003.
(3) ystyr “y prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) 2001.
(4) Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygio'r Prif Reoliadau
2 

(1) Yn rheoliad 2 o'r Prif Reoliadau (Dehongli) tynnir y cyfeiriad at “Rheoliadau 2001” a'r diffiniad.
(2) Yn rheoliad 3(1)(a) o'r Prif Reoliadau (Dyletswyddau asiantaeth fabwysiadu a swyddogaethau panel mabwysiadu mewn perthynas â darpar fabwysiadydd), tynnir y geiriau “rheoliad 3(2)(a) o Reoliadau 2001” a rhoi yn eu lle y geiriau “rheoliadau a wnaed o dan adran 56A o Ddeddf Mabwysiadu 1976”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Mehefin 2003