
2003 Rhif 152 (Cy.22) (C.8)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 10) a Darpariaethau Trosiannol (Cymru) 2003
Wedi'i wneud 29 Ionawr 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 118(6) a (7) a 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 10) a Darpariaethau Trosiannol (Cymru) 2003.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Dyddiau penodedig
2 

(1) 30 Ionawr 2003 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol y Ddeddf—
(a) adrannau 8, 9(1) a (2), 10(2) i (7), 11 i 15, 17 i 21, 24, 26 i 32, 36 a 37 i'r graddau y mae eu darpariaethau —
(i) yn ymwneud â chanolfannau preswyl i deuluoedd, asiantaethau maethu, ac asiantaethau mabwysiadau gwirfoddol; a
(ii) nad ydynt eisoes mewn grym;
(b) adrannau 45 a 46;
(c) adran 53 i'r graddau y mae'n ymwneud â swyddogaethau maethu perthnasol;
(ch) adran 116 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 5 (2), (4), (5), (7)(a) a (9) i (11) o Atodlen 4;
(d) adran 117 i'r graddau y mae'n ymwneud â:
(i) paragraff 2 o Atodlen 5; a
(ii) Atodlen 6 i'r graddau y mae'n ymwneud ag adrannau 3, 4(1) a 4 (3), 5 a 9 (1) o Ddeddf Mabwysiadu 1976.
(2) 1 Chwefror 2003 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym adrannau 105 a 106 a pharagraff 21 o Atodlen 4 o'r Ddeddf.
Darpariaethau Trosiannol mewn perthynas ag asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol
3 
Bydd asiantaeth fabwysiadu gwirfoddol a gymeradwywyd, yn union cyn 30 Ebrill 2003, o dan adran 3 o Ddeddf Fabwysiadu 1976, yn cael ei thrin o 30 Ebrill 2003 ymlaen fel petai wedi gwneud cais am gael ei chofrestru o dan y Ddeddf a chael ei chofrestru o dan y Ddeddf honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Ionawr 2003