
2003 Rhif 148 (Cy.18)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003
Wedi'i wneud 29 Ionawr 2003
Yn dod i rym 10 Chwefror 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16BA, is-adrannau (1), (2) a (3) a 126(4) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, ac Atodlen 5B, paragraffau 1 a 2 i'r Ddeddf honno, sy'n arferadwy ganddo mewn perthynas â Chymru, yn gwneud y Gorchymyn canlynol—
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 10 Chwefror 2003.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ardal Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board area”) yw'r ardal o Gymru y mae Bwrdd Iechyd Lleol wedi'i sefydlu ar ei chyfer;
 ystyr “Deddf 1977” (“the 1977 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977;
 mae i “dyddiad gweithredu” (“operational date”) yr un ystyr ag a briodolwyd iddo ym mharagraff 1(2) o Atodlen 5B i Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977;
 ystyr “dyddiad sefydlu” (“establishment date”) yw 10 Chwefror 2003; ac;
 ystyr “prif ardal llywodraeth leol” (“principal local government area”) yw prif ardal llywodraeth leol fel a nodwyd yn Rhannau I a II o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Sefydlu Byrddau Iechyd Lleol
3 
Sefydlir drwy hyn, gydag effaith o'r dyddiad sefydlu, y Byrddau Iechyd Lleol a restrwyd yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn a gaiff eu galw yn ôl yr enwau a briodolir iddynt yn yr Atodlen honNo. 
Natur Byrddau Iechyd Lleol
4 
Sefydlir bob Bwrdd Iechyd Lleol at y dibenion a nodir yn adran 16BA (1) o Ddeddf 1977.
Ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol
5 

(1) Bydd pob ardal Bwrdd Iechyd Lleol yr un â'r brif ardal llywodraeth leol a bennir iddi yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a bydd iddi'r un ffiniau.
(2) Os caiff y brif ardal llywodareth leol a bennir i Fwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (1) uchod ei hamrywio, caiff ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ei amrywio yn unol â hynny.
(3) Nid yw paragraff (2) uchod yn gymwys mewn perthynas â chreu prif ardal llywodraeth leol newydd, diddymu prif ardal llywodraeth leol sydd eisoes yn bodoli neu uno dwy brif ardal llywodraeth leol neu fwy.
Dyddiad gweithredol a dyddiad cyfirfyddu Byrddau Iechyd Lleol
6 

(1) Dyddiad gweithredol bob Bwrdd Iechyd Lleol fydd 1 Ebrill 2003.
(2) Dyddiad cyfrifyddu bob Bwrdd Iechyd Lleol fydd 31 Mawrth.
Swyddogaethau cyfyngedig cyn y dyddiad gweithredu
7 
Rhwng ei ddyddiad sefydlu a'i ddyddiad gweithredu, bydd gan bob Bwrdd Iechyd Lleol y swyddogaethau canlynol—
(a) ymrwymo i gontractau GIG;
(b) ymrwymo i gontractau eraill gan gynnwys contractau cyflogaeth; ac
(c) gwneud unrhywbeth arall y mae'n rhesymol angenrheidiol er mwyn ei alluogi i weithredu'n foddhaol a hynny gydag effaith o'i ddyddiad gweithredol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Ionawr 2003
YR ATODLEN
Enwau Byrddau Iechyd Lleol a phrif ardaloedd llywodraeth leol y maent yn cael eu sefydlu ar eu cyfer
Erthygl 3 Erthygl 5


Enwau Byrddau Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan erthygl 3 Y brif ardal llywodraeth leol y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol yn cael ei sefydlu ar ei chyfer

1. 
Bwrdd Iechyd Lleol Ynys Môn Ynys Môn

2. 
Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd Gwynedd

3. 
Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd Caerdydd

4. 
Bwrdd Iechyd Lleol Ceredigion Ceredigion

5. 
Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin Sir Gaerfyrddin

6. 
Bwrdd Iechyd Lleol Sir Ddinbych Sir Ddinbych

7. 
Bwrdd Iechyd Lleol Sir y Fflint Sir y Fflint

8. 
Bwrdd Iechyd Lleol Sir Fynwy Sir Fynwy

9. 
Bwrdd Iechyd Lleol Sir Benfro Sir Benfro

10. 
Bwrdd Iechyd Lleol Powys Powys

11. 
Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe Abertawe

12. 
Bwrdd Iechyd Lleol Conwy Conwy

13. 
Bwrdd Iechyd Lleol Blaenau Gwent Blaenau Gwent

14. 
Bwrdd Iechyd Lleol Pen-y-bont ar Ogwr Pen-y-bont ar Ogwr

15. 
Bwrdd Iechyd Lleol Caerffili Caerffili

16. 
Bwrdd Iechyd Lleol Merthyr Tudful Merthyr Tudful

17. 
Bwrdd Iechyd Lleol Castell-nedd/Port Talbot Castell-nedd a Phort Talbot

18. 
Bwrdd Iechyd Lleol Casnewydd Casnewydd

19. 
Bwrdd Iechyd Lleol Rhondda Cynon Tâf Rhondda Cynon Tâf

20. 
Bwrdd Iechyd Lleol Tor-faen Tor-faen

21. 
Bwrdd Iechyd Bro Morgannwg Bro Morgannwg

22. 
Bwrdd Iechyd Lleol Wrecsam Wrecsam