
2003 Rhif 1470 (Cy.172)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 2) 2003
Wedi'i wneud 4 Mehefin 2003
Yn dod i rym 5 Mehefin 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7, 37, 87(2) a (5) ac 88(2) a (4) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn, cymhwyso ac estyn diffiniadau
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 2) 2003 a daw i rym ar 5 Mehefin 2003.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
(3) At ddibenion Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 o'i chymhwyso at y Gorchymyn hwn —
(a) mae'r diffiniadau o anifeiliaid a dofednod yn is-adrannau (1) a (4) o adran 87 o'r Ddeddf honno yn cael eu hestyn i gynnwys pob mamal ac eithrio dyn ac i gynnwys pob aderyn; a
(b) mae'r diffiniadau o glefyd yn is-adrannau (1) a (3) o adran 88 o'r Ddeddf honno yn cael eu hestyn i gynnwys pob clefyd sy'n effeithio ar anifeiliaid a dofednod.
Dehongli
2 

(1) Yn y Gorchymyn hwn —
 mae “anifail” (“animal”) yn cynnwys aderyn;
 ystyr “cyfarpar” (“equipment”) yw unrhyw gyfarpar a gludir gan gyfrwng cludo i'w ddefnyddio gydag anifeiliaid; ac
 mae “cyfrwng cludo” (“means of transport”) yn cynnwys ei ffitiadau, ei rannau datodadwy ac unrhyw gynwysyddion (p'un a ydynt yn ddatodadwy ai peidio) a ddefnyddir gydag ef.
(2) Rhaid i unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig. Gellir ei wneud yn ddarostyngedig i amodau a gellir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu unrhyw bryd mewn ysgrifen.
Glanhau a diheintio mewn cysylltiad â chludo anifeiliaid carnog a dofednod
3 

(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys mewn cysylltiad â chludo —
(a) anifeiliaid carnog;
(b) colomennod rasio; ac
(c) yr anifeiliaid canlynol, os cânt eu magu neu eu cadw mewn caethiwed ar gyfer bridio, cynhyrchu cig neu wyau i'w bwyta, neu er mwyn ailstocio cyflenwadau adar hela: ffowls domestig, tyrcwn, gwyddau, hwyaid, ieir gini, soflieir, colomennod, ffesantod, petris ac adar di-gêl,
ac mae'n rhaid i gyfeiriadau yn yr erthygl hon at “anifail” gael eu dehongli yn unol â hynny.
(2) Yn yr amgylchiadau a nodir yn Atodlen 1, gofynion erthygl 4 sy'n gymwys yn lle gofynion yr erthygl hon.
(3) Rhaid i ddefnyddiwr unrhyw gyfrwng cludo a ddefnyddiwyd i gludo unrhyw anifail, neu unrhyw beth a allai beri perygl o drosglwyddo clefyd, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a heb fod yn fwy na 24 awr ar ôl gorffen y daith, sicrhau bod y cyfrwng cludo ac unrhyw gyfarpar yn cael eu glanhau a'u diheintio yn unol ag Atodlen 2 neu (yn achos cynhwysydd) eu dinistrio.
(4) Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw gyfrwng cludo, na pheri na chaniatáu i gyfrwng cludo gael ei ddefnyddio i gludo unrhyw anifail onid yw'r cyfrwng cludo ac unrhyw gyfarpar wedi cael eu glanhau a'u diheintio yn unol ag Atodlen 2 ers y tro diwethaf iddynt gael eu defnyddio i gludo unrhyw anifail, neu unrhyw beth a allai beri perygl o drosglwyddo clefyd.
(5) Os yw cyfrwng cludo neu unrhyw gyfarpar wedi ei faeddu fel y gallai beri perygl o drosglwyddo clefyd ers y tro diwethaf iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio, ni chaiff neb lwytho anifail yn y cyfrwng cludo, na pheri na chaniatáu i unrhyw anifail gael ei lwytho, onid yw'r rhannau o'r cyfrwng cludo neu'r cyfarpar a faeddwyd wedi cael eu glanhau a'u diheintio eto yn unol â pharagraffau 1, 3 a 4 o Atodlen 2.
(6) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo anifeiliaid symud ymaith unrhyw anifeiliaid marw, sarn (llaesodr) fudr a charthion o'r cyfrwng cludo cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
Glanhau a diheintio mewn cysylltiad â chludo mamaliaid ac adar eraill, ac anifeiliaid carnog a dofednod mewn rhai amgylchiadau
4 

(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys mewn cysylltiad â chludo —
(a) pob mamal heblaw anifeiliaid carnog;
(b) pob aderyn nas cynhwysir yn erthygl 3; ac
(c) anifeiliaid ac adar a bennir yn erthygl 3 yn yr amgylchiadau a nodir yn Atodlen 1,
ac mae'n rhaid i gyfeiriadau yn yr erthygl hon at “anifail” gael eu dehongli yn unol â hynny.
(2) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys yn achos —
(a) cludiant nad yw o natur fasnachol;
(b) anifail unigol sy'n mynd gyda pherson sy'n gyfrifol am yr anifail yn ystod y daith; neu
(c) cludo anifeiliaid anwes sy'n mynd gyda'u perchenogion ar daith breifat.
(3) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo anifeiliaid, neu beri neu ganiatáu i anifeiliaid gael eu cludo, os yw'r erthygl hon yn gymwys, sicrhau —
(a) eu bod yn cael eu llwytho ar gyfrwng cludo sydd wedi ei lanhau ac, os oes angen, ei ddiheintio; a
(b) bod anifeiliaid marw, sarn (llaesodr) fudr a charthion yn cael eu symud ymaith cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
(4) Rhaid gwneud y glanhau a'r diheintio o dan yr erthygl hon yn unol â pharagraffau 1, 3 a 4 o Atodlen 2.
Cabiau Gyrwyr
5 
Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol diheintio y tu mewn i gab gyrrwr unrhyw gyfrwng cludo.
Gwaredu deunydd ar ôl glanhau
6 

(1) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am lanhau'r cyfrwng cludo ac unrhyw gyfarpar o dan y Gorchymyn hwn sicrhau bod yr holl borthiant y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato, y sarn (llaesodr), y carthion ac unrhyw ddeunyddiau eraill sy'n tarddu o anifeiliaid, ac unrhyw halogion eraill sydd wedi cael eu symud o'r cyfrwng cludo —
(a) yn cael eu dinistrio;
(b) yn cael eu trin fel bod y perygl o drosglwyddo clefyd yn cael ei ddileu; neu
(c) yn cael eu gwaredu fel nad oes modd i anifeiliaid fynd atynt.
(2) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw ddeunydd y mae gofyn ei waredu o dan Orchymyn Sgil-Gynhyrchion Anifeiliaid 1999.
Pwerau arolygwyr, a.y.y.b.
7 

(1) Os yw arolygydd wedi ei fodloni bod cyfrwng cludo neu unrhyw gyfarpar naill ai —
(a) heb ei lanhau a'i ddiheintio yn unol â'r Gorchymyn hwn; neu
(b) ag angen ei lanhau a'i ddiheintio oherwydd y gallai beri perygl o drosglwyddo clefyd,
caiff gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson sydd i'w weld ganddo yn gyfrifol am y cyfrwng cludo neu'r cyfarpar hwnnw.
(2) Gall hysbysiad a gyflwynir o dan y paragraff blaenorol —
(a) gwahardd defnyddio'r cyfrwng cludo neu'r cyfarpar nes iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio;
(b) gwahardd cadw anifeiliaid ar y cyfrwng cludo nes iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio;
(c) ei gwneud yn ofynnol i'r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo lanhau a diheintio'r cyfrwng cludo neu'r cyfarpar o fewn unrhyw gyfnod a bennir yn yr hysbysiad; neu
(ch) ei gwneud yn ofynnol i'r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo gael gwared ar yr holl borthiant y mae anifeiliaid wedi cael mynd ato, y sarn (llaesodr), y carthion a deunyddiau eraill sy'n tarddu o anifeiliaid yn y modd a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Os cyflwynir hysbysiad o dan y paragraff blaenorol, rhaid gwneud y glanhau a'r diheintio yn unol ag Atodlen 2 onid yw'r hysbysiad yn pennu dull arall o lanhau a diheintio.
(4) Caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo wneud y glanhau a'r diheintio yn unol ag erthygl 3 neu 4, yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud y glanhau a'r diheintio yn unol â'r hyn a bennir yn yr hysbysiad yn lle eu gwneud yn unol ag Atodlen 2 os yw'r arolygydd wedi ei fodloni bod angen gwneud hynny at ddibenion iechyd anifeiliaid.
(5) Onid yw person yn cydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan yr erthygl hon, caiff arolygydd drefnu y cydymffurfir â darpariaethau'r hysbysiad ar draul y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.
Gorfodi
8 
Yr awdurdod lleol neu'r Ysgrifennydd Gwladol sydd i orfodi'r Gorchymyn hwn.
Dirymu a diwygio
9 
Dirymir Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2003.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
D.Elis-Thomas
Y Llywydd
4 Mehefin 2003Elliot Morley
Yr Is-Ysgrifennydd Seneddol
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
2 Mehefin 2003
ATODLEN 1
Yr amgylchiadau pan fydd erthygl 4 yn gymwys i'r anifeiliaid a bennir yn erthygl 3
Erthyglau 3(2) a 4(1)
Teithio o fewn un fenter ffermio
1 
Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys os yw'r daith wedi ei gwneud o fewn un fenter ffermio sydd o dan un berchnogaeth.
Cludo ceffylau penodol
2 
Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys mewn cysylltiad â chludo —
(a) ceffylau a ddefnyddir at ddibenion hamdden neu chwaraeon yn unig; neu
(b) ceffylau a gedwir mewn stablau a drwyddedir gan Glwb y Jocis yn ôl ac ymlaen i gyfarfodydd rasio, neu yn ôl ac ymlaen i fan lle mae ceffylau sy'n cael eu cadw yn y stablau hynny yn cael eu hyfforddi i rasio.
Teithio rhwng yr un dau bwynt
3 

(1) Os yw cyfrwng cludo yn cael ei ddefnyddio'n unig o fewn un diwrnod i gludo anifeiliaid rhwng yr un dau bwynt, erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys, ac eithrio cyn taith gyntaf y diwrnod ac ar ôl y daith olaf.
(2) Yn y paragraff hwn mae cludo anifeiliaid yn digwydd o fewn un diwrnod hyd yn oed —
(a) os yw'r daith olaf yn dechrau ond nad yw'n gorffen cyn canol nos ar y diwrnod dan sylw; a
(b) yn achos anifail carnog sydd wedi cymryd rhan mewn digwyddiad gyda'r hwyr, neu un sy'n parhau gyda'r hwyr, ar y diwrnod dan sylw, os yw'r daith olaf yn dechrau cyn gynted ag yw'n ymarferol ar ôl diwedd y digwyddiad hwnnw, p'un a yw'n dechrau cyn canol nos ai peidio.
(3) Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys i deithiau rhwng dwy farchnad.
Sioeau da byw
4 
Os defnyddir cyfrwng cludo ar gyfer cludo anifeiliaid o safle tarddiad i sioe da byw ac yn ôl ac nad yw paragraff 3 yn gymwys, yna erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys mewn cysylltiad â'r cyfrwng cludo pan yw ar safle'r sioe da byw ar yr amod —
(a) bod y cyfrwng cludo yn mynd yn uniongyrchol o'r safle tarddiad i'r sioe;
(b) nad yw'r cyfrwng cludo yn ymadael â'r sioe cyn y daith yn ôl;
(c) mai'r anifeiliaid a gludwyd i'r sioe yw'r unig anifeiliaid ar y cyfrwng cludo pan yw yn y sioe;
(ch) nad yw'r cyfrwng cludo ar y daith yn ôl ond yn cludo'r anifeiliaid a gludasai i'r sioe; a
(d) bod y cyfrwng cludo yn dychwelyd o'r sioe yn uniongyrchol i'r safle tarddiad.
Dadlwytho dros dro
5 
Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys mewn cysylltiad â chyfrwng cludo y mae anifeiliaid wedi cael eu dadlwytho ohono, a hynny dim ond i roi bwyd neu ddŵ r iddynt, neu at ryw nod dros dro arall, ac wedyn eu hail-lwytho ynddo.
ATODLEN 2
Glanhau a diheintio cyfrwng cludo
Erthyglau 3(3), (4) a (5), 4(4), 7(3) a (4)
Lefel y glanhau a'r diheintio
1 
Rhaid gwneud yr holl lanhau a diheintio er mwyn lleihau, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, y perygl o drosglwyddo'r clefyd.
Y rhannau o'r cyfrwng cludo y mae angen eu glanhau
2 

(1) Yn achos anifeiliaid nad ydynt yn cael eu cludo mewn cynhwysydd —
(a) rhaid glanhau'r canlynol p'un a ydynt wedi eu baeddu ai peidio: holl wynebau mewnol y rhannau hynny o'r cyfrwng cludo y cludwyd yr anifeiliaid ynddynt, a phob rhan o'r cyfrwng cludo y mae'n bosibl bod yr anifeiliaid wedi cael mynd ati yn ystod y daith; a
(b) rhaid glanhau'r canlynol os ydynt wedi eu baeddu —
(i) unrhyw ffitiadau datodadwy nas defnyddiwyd yn ystod y daith;
(ii) unrhyw ran arall o'r cyfrwng cludo; a
(iii) unrhyw gyfarpar.
(2) Yn achos anifeiliaid a gludwyd mewn cynhwysydd, rhaid glanhau'r tu mewn i'r cynhwysydd p'un a yw wedi ei faeddu ai peidio, a rhaid glanhau'r tu allan i'r cynhwysydd ac unrhyw rannau o'r cyfrwng cludo sy'n cario'r cynhwysydd os ydynt wedi'u baeddu.
(3) At ddibenion erthygl 3, rhaid i bob rhan o gyfrwng cludo y mae'n ofynnol ei glanhau gael ei diheintio hefyd.
Y dull glanhau
3 
Rhaid glanhau drwy symud ymaith unrhyw borthiant y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato, unrhyw sarn (llaesodr), unrhyw garthion ac unrhyw ddeunydd arall sy'n tarddu o anifeiliaid, unrhyw laid ac unrhyw halogion eraill drwy ddefnyddio unrhyw gyfrwng priodol, a glanhau wedyn â dŵ r, stêm neu, pan fo'n briodol, gemegau neu gyfansoddion cemegol (neu, os bydd angen, unrhyw gyfuniad o'r rhain) nes cael gwared ar y baw.
Y dull diheintio
4 
Rhaid i bopeth y mae'n ofynnol ei lanhau o dan y Gorchymyn hwn gael ei ddiheintio ar ôl gorffen ei lanhau, drwy ddefnyddio diheintydd a gymeradwyir o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978 yn ôl y crynodiad sy'n ofynnol o dan y gorchymyn hwnnw ar gyfer “Gorchmynion Cyffredinol”.