
2003 Rhif 143 (Cy.15)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud 28 Ionawr 2003
Yn dod i rym 1 Chwefror 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 1 Chwefror 2003.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Atodlen 10 i'r prif Reoliadau
2 
Yn Atodlen 10 i'r prif Reoliadau (cyffuriau a sylweddau eraill nad ydynt i'w rhagnodi i'w cyflenwi o dan wasanaethau fferyllol) hepgorir y cofnodion canlynol—“
 Fabrol Granules
 Fluimucil Granules
 Methylcisteine Tablets 100mg
 Mucodyne Capsules
 Mucodyne Syrup
 Mucodyne Forte Syrup
 Mucodyne Forte Tablets
 Mucodyne Paediatric Syrup
 Visclair Tablets”.
Diwygio Atodlen 11 i'r prif Reoliadau
3 
Yn Atodlen 11 i'r prif Reoliadau (cyffuriau i'w rhagnodi o dan wasanaethau fferyllol mewn amgylchiadau penodol yn unig), hepgorir—
(a) y cofnodion sy'n ymwneud â'r canlynol—
(i) Gronynnau Acetylcysteine, a
(ii) Carbocisteine
a
(b) ar ôl “Apomorphine Hydrochloride (Uprima)” yng ngholofnau 1 a 2 yn eu trefn, mewnosodwch“
 , Tadalafil (Cialis)” .
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Ionawr 2003