
2003 Rhif 139 (Cy.11)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) a (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud 28 Ionawr 2003
Yn dod i rym 1 Chwefror 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29, 41, 42, 43 a 126(4) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) a (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2003.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
 “y Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol” (“the Pharmaceutical Services Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992;
 “y Rheoliadau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol” (“the General Medical Services Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Atodiad 2 y Rheoliadau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol
2 

(1) Caiff Atodlen 2 y Rheoliadau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Telerau Gwasanaeth i Feddygon) ei diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff 43 (rhagnodi)—
(a) yn lle geiriau cyntaf is-baragraff (3), rhowch—“
(3) Where a doctor orders drugs specified in Schedules 2 to 5 to the Misuse of Drugs Regulations 2001 (controlled drugs to which regulations, 14, 15, 16, 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24, 26 and 27 of those Regulations apply) for supply by instalments for treating addiction to any drug specified in those Schedules, he shall—”;
(b) yn is-baragraff (5) (b) yn lle “other than a drug which is for the time being specified in Schedule 5 to the Misuse of Drugs Regulations 1985);” rhowch “other than a drug which is for the time being specified in Schedules 4 or 5 to the Misuse of Drugs Regulations 2001;”;
(c) yn is-baragraff (6) (a), yn lle “other than a drug which is for the time being specified in Schedule 5 to the Misuse of Drugs Regulations 1985” rhowch “other than a drug which is for the time being specified in Schedules 4 or 5 to the Misuse of Drugs Regulations 2001;”.
Diwygio Atodlen 2 y Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol
3 

(1) Caiff Rhan II o Atodlen 2 y Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol (Telerau Gwasanaeth i Fferyllyddion) ei diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff 3 (darparu gwasanaethau fferyllol)—
(a) yn is-baragraff (4), yn lle “the Misuse of Drugs Regulations 1985” rhowch “the Misuse of Drugs Regulations 2001”;
(b) yn is-baragraff (6), yn lle “the Misuse of Drugs Regulations 1985”, rhowch “the Misuse of Drugs Regulations 2001”;
(c) yn is-baragraff (9) (b), yn lle “other than a drug which is for the time being specified in Schedule 4 or 5 to the Misuse of Drugs Regulations 1985”, rhowch “other than a drug which is for the time being specified in Schedules 4 or 5 to the Misuse of Drugs Regulations 2001;”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Ionawr 2003