
2003 Rhif 135 (Cy.9)
CEFN GWLAD, CYMRU
Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Cyflwyno Tir fel Tir Mynediad) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud 28 Ionawr 2003
Yn dod i rym 1 Mawrth 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo o dan adrannau 16 a 44 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Cyflwyno Tir fel Tir Mynediad) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn:
 mae i “cyfathrebiad electronig” a “cyfathrebu electronig” yr ystyr a briodolir i'r term “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000;
 ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Cefn Gwlad Cymru;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000;
 ystyr “offeryn cyflwyno” (“dedication instrument”) yw offeryn sy'n galluogi, yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau hyn, i dir gael ei gyflwyno o dan adran 16(1) o'r Ddeddf at ddibenion Rhan I o'r Ddeddf; ac
 ystyr “offeryn cyflwyno sy'n diwygio” (“amending dedication instrument”) yw offeryn sy'n galluogi, yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau hyn, i'r cyfyngiadau cyffredinol sydd i'w hufuddhau gan bersonau sy'n arfer yr hawl mynediad, mewn perthynas â thir a gyflwynwyd o dan adran 16(1) o'r Ddeddf at ddibenion Rhan I o'r Ddeddf, gael eu dileu, eu llacio neu eu llacio ymhellach.
Ffurf a chynnwys offerynnau cyflwyno
3 
Rhaid i offeryn cyflwyno:
(a) bod yn ysgrifenedig, naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg neu, os yw'n cael ei baratoi ar ffurf ddwyieithog, yn y naill iaith a'r llall;
(b) datgan ei fod wedi'i wneud o dan adran 16(1) o'r Ddeddf a datgan mai ei effaith, pan ddaw i rym yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn, fydd cyflwyno'r tir y mae'n ymwneud ag ef at ddibenion Rhan I o'r Ddeddf;
(c) dynodi'r tir sydd i'w gyflwyno drwy gyfeirio at blan neu fap sydd wedi'i atodi i'r offeryn ac:
(i) sydd ar raddfa heb fod yn llai nag 1:10,000;
(ii) y mae ffiniau'r tir sydd i'w gyflwyno wedi'u marcio'n glir arno; ac
(iii) y mae safle digon o linellau Grid Cenedlaethol yr Arolwg Ordnans neu nodweddion daearyddol y gellir eu hadnabod wedi'u dangos arno i'w gwneud yn bosibl i leoliad cyffredinol y tir gael ei ganfod;
(ch) datgan enw, cyfeiriad a chod post pob person sy'n gwneud y cyflwyniad;
(d) datgan natur y buddiant y mae gan bob person sy'n gwneud y cyflwyniad yn y tir sy'n cael ei gyflwyno, ac, os yw unrhyw fuddiant o'r fath yn dymor blynyddoedd absoliwt cyfreithiol, y dyddiad y mae'r tymor hwnnw i fod i ddod i ben;
(dd) os nad yw buddiant unrhyw berson sy'n gwneud y cyflwyniad yn ymwneud â'r cyfan o'r tir sy'n cael ei gyflwyno, dynodi hyd a lled y tir y mae buddiant y person hwnnw yn ymwneud ag ef drwy gyfeirio at ffiniau sydd wedi'u marcio'n glir ar y plan neu'r map sydd wedi'i atodi i'r offeryn yn unol â pharagraff (c);
(e) datgan enw, cyfeiriad a chod post pob person sy'n cydsynio ag ef, ac eithrio'r rhai sy'n gwneud y cyflwyniad;
(f) datgan natur y buddiant sydd gan bob person sy'n cydsynio â'r cyflwyniad yn y tir sy'n cael ei gyflwyno ac, os nad yw'r buddiant hwnnw yn ymwneud â'r cyfan o'r tir sy'n cael ei gyflwyno, dynodi hyd a lled y tir y mae'r buddiant hwnnw yn ymwneud ag ef naill ai drwy ddisgrifiad mewn geiriau neu drwy gyfeirio at y plan neu'r map sydd wedi'i atodi i'r offeryn;
(ff) cynnwys datganiad gan neu ar ran y personau sy'n gwneud y cyflwyniad nad oes, hyd eithaf gwybodaeth a chred y personau hynny, unrhyw bersonau, heblaw'r rhai sydd wedi'u nodi yn unol â pharagraff (ch), y mae'n ofynnol iddynt o dan adran 16(1) o'r Ddeddf ymuno â'r cyflwyniad nac unrhyw bersonau, heblaw'r rhai a nodwyd yn unol â pharagraffau (ch) ac (e) y mae'n ofynnol iddynt o dan adran 16(2) o'r Ddeddf naill ai ymuno â'r cyflwyniad neu gydsynio ag ef;
(g) datgan, mewn perthynas ag unrhyw ran o'r tir sydd i'w gyflwyno, a yw'r personau sy'n gwneud y cyflwyniad yn bwriadu y dylai unrhyw un o'r cyfyngiadau cyffredinol sydd i'w hufuddhau gan bersonau sy'n arfer yr hawl mynediad a nodwyd ym mharagraff 1, 4 neu 5 o Atodlen 2 i'r Ddeddf gael eu dileu neu eu llacio ac, os felly:
(i) dynodi, drwy gyfeirio at rif y paragraff ac, yn achos paragraff 1, lythyren yr is-baragraff, p'un o'r cyfyngiadau sydd i'w dileu neu, yn ôl fel y digwydd, i'w llacio;
(ii) yn achos cyfyngiad sydd i'w lacio, i ba raddau y dylid ei lacio;
(iii) a yw dileu neu llacio'r cyfyngiad, mewn perthynas â phob cyfyngiad sydd i'w ddileu neu i'w lacio, i fod yn gymwys i'r cyfan o'r tir sydd i'w gyflwyno ac, os nad ydyw, i ba ran neu rannau o'r tir mae i fod yn gymwys iddo; a
(iv) dynodi, drwy gyfeirio at ffiniau sydd wedi'u marcio'n glir ar y plan neu'r map a atodwyd i'r offeryn yn unol â pharagraff (c), neu blan neu fap ar wahân heb fod ar raddfa lai ac sydd wedi'i atodi i'r offeryn at ddibenion y paragraff hwn, y rhan neu'r rhannau o'r tir y mae dileu neu lacio'r cyfyngiadau i fod yn gymwys iddynt;
(ng) cynnwys datganiad o gydsyniad â thelerau'r offeryn a hwnnw wedi'i lofnodi gan bob un o'r personau a nodwyd yn unol â pharagraff (e) neu gan rywun sydd wedi'i awdurdodi i lofnodi ar eu rhan; ac
(h) cynnwys, yn union o flaen y man lle y mae i'w lofnodi pan fydd wedi'i weithredu, ddatganiad fod darpariaethau rheoliad 4(4) wedi'u bodloni.
Gweithredu offeryn cyflwyno
4 

(1) Mae offeryn cyflwyno yn cael ei i weithredu:
(a) drwy gael ei lofnodi gan y person neu'r personau sy'n gwneud y cyflwyniad, neu gan rywun sydd wedi'i awdurdodi i lofnodi ar eu rhan; a
(b) drwy gael ei ddyddio â'r dyddiad y mae'n cael ei lofnodi neu, os yw'n cael ei lofnodi gan bersonau gwahanol ar ddyddiadau gwahanol y dyddiad y mae'n cael ei lofnodi gan yr olaf o'r personau hynny.
(2) Os yw person yn llofnodi offeryn cyflwyno ar ran person sy'n gwneud y cyflwyniad, rhaid i ddatganiad ddod o flaen y llofnod a hwnnw'n ddatganiad sy'n nodi'r person y mae'r offeryn cyflwyno yn cael ei lofnodi ar ei ran a datganiad bod y person sy'n llofnodi'r offeryn cyflwyno wedi'i awdurdodi i wneud hynny ar ran y person hwnnw.
(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn, dyddiad gweithredu'r offeryn cyflwyno yw'r dyddiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1)(b).
(4) Ni chaiff neb lofnodi offeryn cyflwyno yn unol â pharagraff (1) oni bai bod drafft o'r offeryn wedi'i anfon, yn y fath fodd ag i ddod i law ym mhob achos ymhen nid llai na thri mis cyn iddo gael ei lofnodi felly, at bob un o'r canlynol:
(a) yr awdurdod mynediad neu'r awdurdodau mynediad ar gyfer y tir y mae'r offeryn drafft yn ymwneud ag ef;
(b) y Cyngor;
(c) y Cynulliad Cenedlaethol;
(ch) y Comisiynwyr Coedwigaeth, os oes unrhyw ran o'r tir y mae'r offeryn drafft yn ymwneud ag ef yn cynnwys coetir; a
(d) y morgeisai, os yw'r buddiant yn y tir sydd gan unrhyw un o'r personau sydd i fod i wneud y cyflwyniad yn ddarostyngedig, pan fydd yr offeryn wedi'i weithredu, i unrhyw bridiant ar ffurf morgais cyfreithiol.
Effaith offerynnau cyflwyno
5 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae offeryn cyflwyno sydd wedi'i weithredu yn unol â rheoliad 4 yn dod i rym chwe mis ar ôl dyddiad ei weithredu.
(2) Mae gan offeryn cyflwyno, pan fydd wedi dod i rym yn unol â pharagraff (1), yr effaith o gyflwyno'r tir y mae'n ymwneud ag ef at ddibenion Rhan I o'r Ddeddf.
(3) Nid yw offeryn cyflwyno yn dod i rym oni bai ei fod, yn unol â pharagraff (4), wedi'i adneuo gyda'r awdurdod mynediad ar gyfer y tir y mae'n ymwneud ag ef, neu os oes mwy nag un awdurdod mynediad o'r fath, gydag un ohonynt.
(4) Mae offeryn cyflwyno yn cael ei adneuo gydag awdurdod mynediad drwy anfon neu draddodi'r gwreiddiol i'r awdurdod hwnnw fel y bydd yn dod i law'r awdurdod mynediad o fewn un mis ar ôl dyddiad ei weithredu ac nid oes unrhyw effaith i unrhyw offeryn cyflwyno sy'n dod i law awdurdod mynediad ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw.
(5) Os digwydd i awdurdod mynediad gael offeryn cyflwyno ar ôl i'r cyfnod y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (4) ddod i ben, rhaid iddo hysbysu ar unwaith bob un o'r personau sydd wedi'u nodi ynddo fel y personau sy'n cyflwyno'r tir y mae'r offeryn yn ymwneud ag ef nad oes unrhyw effaith iddo, oherwydd methiant i adneuo'r offeryn cyflwyno o fewn y cyfnod y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (4).
Hysbysu o adneuo offeryn cyflwyno
6 

(1) Rhaid i'r personau y mae offeryn cyflwyno wedi'i lofnodi ganddynt neu ar eu rhan sicrhau cyn gynted â phosibl ar ôl ei adneuo gydag awdurdod mynediad yn unol â rheoliad 5, fod copïau yn cael eu hanfon at bob un o'r cyrff neu'r personau y cyfeiriwyd atynt yn rheoliad 4(4)(a) i (d) (ac eithrio'r awdurdod mynediad y cafodd yr offeryn cyflwyno ei adneuo gyda hwy yn unol â rheoliad 5), a bod datganiad sy'n nodi'r awdurdod mynediad y mae'r offeryn cyflwyno wedi'i adneuo gyda hwy a'r dyddiad y cafodd ei adneuo felly yn cael ei anfon gyda phob copi.
(2) Nid yw methu â chydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn yn effeithio ar ddilysrwydd offeryn cyflwyno.
Dileu neu lacio cyfyngiadau ar dir sydd wedi'i gyflwyno
7 

(1) Os yw offeryn cyflwyno yn cynnwys datganiad yn unol â pharagraff (g) o reoliad 3, mae'r cyfyngiadau cyffredinol sydd i'w hufuddhau gan bersonau sy'n arfer hawl mynediad a nodwyd ym mharagraff 1, 4 neu 5 o Atodlen 2 i'r Ddeddf yn gymwys yn ddarostyngedig i unrhyw ddileu neu lacio a bennir yn y datganiad yn unol â'r paragraff hwnnw.
(2) Os gallai unrhyw berson neu bersonau, mewn perthynas ag unrhyw dir y mae offeryn cyflwyno yn ymwneud ag ef, gyflwyno'r tir hwnnw (oni bai ei fod eisoes wedi'i gyflwyno) o dan adran 16(1) o'r Ddeddf, cânt ddileu unrhyw gyfyngiadau cyffredinol o'r fath sy'n parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â'r tir hwnnw, neu eu llacio neu eu llacio ymhellach, yn ôl fel y digwydd drwy offeryn cyflwyno sy'n diwygio.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i (7), mae darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn gymwys i offerynnau cyflwyno sy'n diwygio i'r graddau y maent yn gymwys i offerynnau cyflwyno.
(4) Mae paragraff (b) o reoliad 3 yn gymwys i offeryn cyflwyno sy'n diwygio fel petai'r cyfeiriad at y datganiad gofynnol yn gyfeiriad at ddatganiad ei fod wedi'i wneud yn unol a pharagraff (2) o'r rheoliad hwn ac mai ei effaith, pan fydd yn dod i rym yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn, fydd y caiff rhai o'r cyfyngiadau cyffredinol sy'n gysylltiedig ag ef ac sydd i'w hufuddhau gan bersonau sy'n arfer mynediad i'r tir y mae'n ymwneud ag ef eu dileu, eu llacio neu eu llacio ymhellach yn unol â thelerau'r offeryn cyflwyno sy'n diwygio.
(5) Nid yw paragraffau (e), (f) ac (ng) o reoliad 3 yn gymwys i offeryn cyflwyno sy'n diwygio.
(6) Mae'r cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at dir sydd i'w gyflwyno i'w dehongli, mewn perthynas ag offeryn cyflwyno sy'n diwygio, fel cyfeiriadau at y tir y mae'r cyfyngiadau cyffredinol sydd i'w hufuddhau gan bersonau sy'n arfer mynediad i'r tir hwnnw i'w dileu, i'w llacio neu i'w llacio ymhellach.
(7) Mae'r cyfeiriad yn rheoliad 5(2) at effaith offeryn cyflwyno pan ddaw i rym i'w ddehongli, mewn perthynas ag offeryn cyflwyno sy'n diwygio, fel cyfeiriad at y ffaith bod dileu, llacio neu lacio ymhellach y cyfyngiadau cyffredino, sydd i'w hufuddhau gan bersonau sydd wedi'u nodi yn yr offeryn ac sy'n arfer mynediad i'r tir, i ddod yn weithredol.
Defnyddio cyfathrebu electronig
8 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caniateir i unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol i un person ei hanfon at un arall neu yr awdurdodwyd ei hanfon felly o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, gael ei hanfon drwy'r post neu drwy gyfrwng cyfathrebiad electronig ac mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn heblaw am y cyfeiriad yn rheoliad 3(a), at ysgrifen, sut bynnag y mae wedi'i fynegi, i'w ddehongli fel un sy'n cynnwys cyfeiriad at ffurf y gellir ei storio ar gyfrifiadur, ei throsglwyddo iddo ac ohono, a'i darllen drwy gyfrwng cyfrifiadur.
(2) Ni ellir adneuo offeryn cyflwyno gydag awdurdod mynediad yn unol â rheoliad 5(4) drwy ddull cyfarthrebiad electronig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Ionawr 2003