
2003 Rhif 1147 (Cy.155)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Tai (Hawl i Gaffael a Hawl i Brynu) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig a Rhanbarthau Dynodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003
Wedi'i wneud 24 Ebrill 2003
Yn dod i rym 25 Ebrill 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 157 o Ddeddf Tai 1985 ac adran 17 o Ddeddf Tai 1996, ac ar ôl ymgynghori, yn unol ag is-adran (6) o adran 17 o Ddeddf Tai 1996, â'r awdurdodau lleol a'r cyrff a grybwyllir yn yr is-adran honno, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Gaffael a Hawl i Brynu) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig a Rhanbarthau Dynodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 25 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio
2 
Diwygir Gorchymyn Tai (Hawl i Gaffael a Hawl i Brynu) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig a Rhanbarthau Dynodedig) (Cymru) 2003 yn unol â'r hyn a nodir yn erthyglau 3, 4, a 5 isod.
Erthygl 1
3 
Yn Erthygl 1 yn lle “2002” rhowch “2003”.
Erthygl 2
4 
Ar ddiwedd Erthygl 2 ychwanegwch:“
 yn ogystal ag, yn achos adran 17(1)(b), yr holl gymunedau a rhannau o gymunedau sydd o fewn Parc Cenedlaethol neu o fewn ardal a ddynodir o dan adran 82 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn ardal o harddwch naturiol eithriadol.”.
Atodlen
5 
Yn y fersiwn Gymraeg o'r Atodlen o dan y pennawd “Ym Mwrdeistref Sirol Rhondda, Cynon, Taf” yn lle “Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Gwyr” rhowch “Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
J E Randerson
Y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg
24 Ebrill 2003