
2003 Rhif 1004 (Cy.144)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2003
Wedi'u gwneud 2 Ebrill 2003
Yn dod i rym 7 Ebrill 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22(1) a (7)(a) a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n barnu eu bod yn briodol drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2003 a deuant i rym ar 7 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002
2 

(1) Mae Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 yn cael eu diwygio yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 5 (arweiniad defnyddiwr gwasanaeth) —
(a) ym mharagraff (2)(b) hepgorir “ac”;
(b) ym mharagraff (2)(c) yn lle “.” rhoddir “;”;
(c) ar ôl paragraff (2)(c) mewnosodir yr is-baragraff canlynol —“
(ch) os yw person ac eithrio defnyddiwr gwasanaeth neu'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am gopi o'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth —
(i) trefnu bod copi o'r fersiwn gyfredol o'r arweiniad ar gael i'w archwilio gan y person hwnnw yn y cartref gofal; neu
(ii) darparu copi o'r fath i'r person hwnnw.”.
(3) Ar ôl rheoliad 5, mewnosodir y rheoliad canlynol —“
Gwybodaeth am ffioedd
5A. 

(1) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i bob defnyddiwr gwasanaeth ddatganiad ynghylch—
(a) y ffioedd sy'n daladwy gan y defnyddiwr gwasanaeth neu mewn perthynas ag ef am ddarparu i'r defnyddiwr gwasanaeth unrhyw un o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau canlynol —
(i) llety, gan gynnwys darparu bwyd;
(ii) nyrsio;
(iii) gofal personol;
(b) y cyfleusterau a'r gwasanaethau y mae'r ffioedd y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) yn daladwy ar eu cyfer; ac
(c) y dull ar gyfer talu'r ffioedd a'r person y mae'r ffioedd yn daladwy ganddo.
(2) Yn achos defnyddiwr gwasanaeth y mae ei lety yn dechrau ar ôl 7 Ebrill 2003, rhaid darparu'r datganiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) ar neu cyn y dydd y daw'r person hwnnw yn ddefnyddiwr gwasanaeth.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r defnyddiwr gwasanaeth o leiaf fis ymlaen llaw am—
(a) unrhyw gynnydd yn y ffioedd y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(a);
(b) unrhyw amrywiad yn y materion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(b) ac (c).
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) —
(a) os yw Awdurdod Iechyd neu Fwrdd Iechyd Lleol wedi hysbysu'r person cofrestredig ei fod wedi penderfynu gwneud taliad i'r person cofrestredig ar gyfer nyrsio a ddarparwyd (neu sydd i'w ddarparu) i ddefnyddiwr gwasanaeth, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r defnyddiwr gwasanaeth o'r penderfyniad hwnnw cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol;
(b) os yw Bwrdd Iechyd Lleol yn gwneud taliad o'r fath, rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i'r defnyddiwr gwasanaeth ddatganiad ynghylch dyddiad a swm y taliad.
(5) Nid yw'r cyfeiriadau ym mharagraff (4) at daliad yn cynnwys taliad —
(a) os yw'r Awdurdod Iechyd neu'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau gyda'r cartref gofal ar gyfer darparu llety i'r defnyddiwr gwasanaeth; ac
(b) os yw'r taliad yn ymwneud ag unrhyw gyfnod pan fo llety yn cael ei ddarparu o dan y trefniadau hynny i'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal.”.
(4) Yn rheoliad 39(2)(d)yn lle “cartref plant” rhoddir “cartref gofal”.
(5) Yn y fersiwn Saesneg o reoliad 39(4) yn lle “children’s home” rhoddir “care home”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Ebrill 2003