
2002 Rhif 918 (Cy. 106)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud 28 Mawrth 2002
Yn dod i rym 1 Ebrill 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 15(1), 35(1), 36(1) a (3) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Yn y rheoliadau hyn—
 ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992;
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.
Diwygio Atodlen 4 i Reoliadau 1992
2 
Yn Rhan II o Atodlen 4 i Reoliadau 1992 (triniaeth â chymeradwyaeth ymlaen llaw), ym mharagraffau 1 a 2, yn lle “£260” rhowch “£375”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Rhodri Morgan
Y Prif Ysgrifennydd
Dyddiad 28 Mawrth 2002