
2002 Rhif 917 (Cy. 105)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud 28 Mawrth 2002
Yn dod i rym
ac eithrio rheoliadau 2 a 5 1 Ebrill 2002
rheoliadau 2 a 5 9 Ebrill 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 38, 39, 78, 126(4) a 127 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym—
(a) ac eithrio rheoliadau 2 a 5, ar 1 Ebrill 2002; a
(b) rheoliadau 2 a 5 ar 9 Ebrill 2002.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall—
 ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997;
 ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Cymru) 1986.
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997
2 
Yn rheoliad 8 o Reoliadau 1997 (cymhwyster — cyflenwi cyfarpar optegol), ym mharagraffau (3)(c) (cael credyd treth teuluoedd sy'n gweithio) a (g) (credyd treth pobl anabl), yn lle “£71” rhowch “£72.20”.
Diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997
3 
Yn rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer amnewid neu drwsio)—
(a) ym mharagraff (1)(b), yn lle “£43.90” rhowch “£44.60”; a
(b) ym mharagraff (3), yn lle “£11.30” rhowch “£11.50”.
Diwygio'r Atodlenni i Reoliadau 1997
4 

(1) Yn Atodlen 1 i Reoliadau 1997 (codau llythrennau talebau a'u gwerth ar yr wyneb — cyflenwi ac amnewid) yn ngholofn (3) (gwerth y daleb ar ei hwyneb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl isod rhowch y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw.

TABL
(1) (2)
Yr hen swm Y swm newydd
£30.00 £30.50
£45.60 £46.40
£62.10 £63.20
£140.30 £142.70
£51.80 £52.70
£65.90 £67.00
£79.60 £81.00
£154.30 (yn y ddau fan lle y'i gwelir) £157.00
£43.90 £44.60
(2) Yn Atodlen 2 i Reoliadau 1997 (prismau, tintiau, lensys ffotocromig, sbectolau bach ac arbennig a chyfarpar cymhleth)—
(a) ym mharagraff 1(1)(a) (prism — lens golwg sengl), yn lle “£6.30” rhowch “£9.90”;
(b) ym mharagraff 1(1)(b) (prism — lens arall), yn lle “£7.20” rhowch “£11.90”;
(c) ym mharagraff 1(1)(c) (lens golwg sengl â thint), yn lle “£3.20” rhowch “£3.30”;
(ch) ym mharagraff 1(1)(d) (lens arall â thint), yn lle “£3.70” rhowch “£3.80”;
(d) ym mharagraff 1(1)(e) (sbectolau bach), yn lle “£49.90”, “£43.90” a “£23.80”, rhowch “£50.20”, “£44.60” a “£24.20” yn eu trefn;
(dd) ym mharagraff 1(1)(g) (fframiau wedi'u gweithgynhyrchu'n arbennig) yn lle “£49.40” rhowch “£50.20”;
(e) ym mharagraff 2(a) (isafswm taliad cyfarpar cymhleth — lensys golwg sengl), yn lle “£10.50” rhowch “£10.70”;
(f) ym mharagraff 2(b) (isafswm taliad cyfarpar cymhleth — lensys eraill), yn lle “£26.50” rhowch “£27.00”.
(3) Yn lle Atodlen 3 i Reoliadau 1997 (gwerthoedd talebau — trwsio), rhowch yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986
5 
Yn rheoliad 13 o Reoliadau 1986 (Profion Golwg — cymhwyster), ym mharagraffau (2)(c) (cael credyd treth teuluoedd sy'n gweithio) a (2) (g) (cael credyd treth pobl anabl), yn lle “£71” rhowch “£72.20”.
Defnyddio'r Rheoliadau hyn
6 
Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 3 a 4 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â thaleb a dderbynnir neu a ddefnyddir yn union â rheoliadau 12 a 17 o Reoliadau 1997 ar 1 Ebrill 2002 neu ar ôl hynny.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Rhodri Morgan
Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mawrth 2002
SCHEDULE
SCHEDULE 3 TO THE 1997 REGULATIONS AS SUBSTITUTED BY THESE REGULATIONS
Regulation 3(3)

SCHEDULE 3
VOUCHER VALUES — REPAIR
Regulations 19(2) and (3)


(1) (2)
Nature of repair Letter Codes — Value
 A B C D E F G H&I
 £ £ £ £ £ £ £ £
Repair or replacement of one lens 9.50 17.45 25.85 65.60 20.60 27.75 34.75 72.75
Repair or replacement of two lenses 19.00 34.90 51.70 131.20 41.20 55.50 69.50 145.50
Repair or replacement of the front of a frame 9.75 9.75 9.75 9.75 9.75 9.75 9.75 9.75
the side of a frame 5.80 5.80 5.80 5.80 5.80 5.80 5.80 5.80
the whole frame 11.50 11.50 11.50 11.50 11.50 11.50 11.50 11.50