
2002 Rhif 886 (Cy.101)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dadansoddiadau Awdurdodau Cyfan a Chynlluniau Gwella) (Cymru) 2002
Wedi'i wneud 27 Mawrth 2002
Yn dod i rym 1 Ebrill 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 5(2), 6(3), 7(6) a 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dadansoddiadau Awdurdodau Cyfan a Chynlluniau Gwella) (Cymru) 2002 ac mae'n dod i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “cynllun gwella” (“improvement plan”) yw cynllun perfformiad gwerth gorau o fewn yr ystyr a briodolir i “best value performance plan” yn adran 6(1) o'r Ddeddf;
 ystyr “dadansoddiad awdurdod cyfan” (“whole authority analysis”) yw adolygiad gwerth gorau o holl swyddogaethau awdurdod gwerth gorau o fewn yr ystyr a briodolir i “best value reviews” yn adran 5 o'r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1999.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru ac eithrio'r awdurdodau hynny a bennir yn adran 1(1)(d) ac (e) o'r Ddeddf.
Cyfnod cynnal dadansoddiadau
2 
Rhaid i awdurdodau gwerth gorau gynnal dadansoddiad awdurdod cyfan erbyn 30 Mehefin 2003 a rhaid iddynt gynnal dadansoddiad awdurdod cyfan pellach cyn diwedd pob cyfnod o bum mlynedd wedi hynny.
Dyddiad cyhoeddi cynlluniau gwella
3 
Rhaid i awdurdodau gwerth gorau gyhoeddi eu cynllun gwella ar gyfer blwyddyn ariannol benodol erbyn 30 Mehefin yn ystod y flwyddyn y mae'r cynllun yn berthnasol iddi.
Y dyddiad ar gyfer anfon copïau o adroddiadau archwilwyr
4 
Yn unol ag adran 7(5) o'r Ddeddf, rhaid anfon copïau o adroddiad archwilydd ynglyn â chynllun gwella erbyn 31 Hydref yn ystod y flwyddyn y mae'r cynllun yn berthnasol iddi.
Diddymu
5 
Mae Gorchymyn Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) (Adolygiadau a Chynlluniau Perfformiad) (Cymru) 2000 drwy hyn yn cael ei ddiddymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Rhodri Morgan
Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2002