
2002 Rhif 837 (Cy.99)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) (Diwygio) (Cymru) 2002
Wedi'i wneud 26 Mawrth 2002
Yn dod i rym 10 Ebrill 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a freiniwyd ynddo gan adran 33 ac 146 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996:
Enw, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) (Diwygio) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 10 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio'r Gorchymyn
2 
Ym mharagraff (b) o erthygl 2 o Orchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) 1996 yn lle “£24,000” rhowch “£30,000”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Rhodri Morgan
Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol
26 Mawrth 2002