
2002 Rhif 815 (Cy.95)
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud 22 Mawrth 2002
Yn dod i rym 8 Ebrill 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru:—
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2002, a deuant i rym ar 8 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Y swm y mae ei angen at anghenion personol
2 
Y swm y mae'n rhaid i awdurdod lleol ragdybio o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 y bydd ar berson ei angen at anghenion personol y person hwnnw fydd £16.80 yr wythnos.
Diddymu
3 
Mae Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2001 drwy hyn wedi'u diddymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
J.E.Randerson
Y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg
22 Mawrth 2002