
2002 Rhif 814 (Cy.94)
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud 22 Mawrth 2002
Yn dod i rym 8 Ebrill 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 8 Ebrill 2002.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992.
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio'r prif Reoliadau
2 

(1) Diwygir y prif Reoliadau yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 20 (terfyn cyfalaf) yn lle'r ffigur “£18,500” rhoddir y ffigur “£19,000”.
(3) Yn rheoliad 28 (1) (cyfrifo incwm tariff o gyfalaf) yn lle'r ffigur “£11,500”, lle mae'n ymddangos, rhoddir y ffigur “£11,750” ac yn lle'r ffigur “£18,500” rhoddir y ffigur “£19,000”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 
J.E. Randerson
Y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg.
22 Mawrth 2002