
2002 Rhif 813 (Cy.93)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) (Diwygio) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud 21 Mawrth 2002
Yn dod i rym 22 Mawrth 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 93 a 94(1)(c) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995, ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 93(2) o'r Ddeddf honno, a rhoi sylw i'r materion a bennir yn adran 93(6) o'r Ddeddf honno, fel sy'n ofynnol o dan adran 93(5) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Pacio) (Diwygio) (Cymru) 2002 ac maent yn dod i rym ar 22 Mawrth 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygio Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 1997
2 

(1) Diwygir Atodlen 2 (rhwymedigaethau adennill ac ailgylchu) i Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 1997 fel a ganlyn—
(2) ym mharagraff 4, yn lle “and (c) for any subsequent year, 56%.”, rhodder “(c) for the year 2001, 56%; and (d) for any subsequent year, 59%.”.
(3) ym mharagraff 5, yn lle “and (c) for any subsequent year, 18%.”, rhodder “(c) for the year 2001, 18%; and (d) for any subsequent year, 19%.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Dafydd Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mawrth 2002