
2002 Rhif 784 (Cy.85)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Gorchymyn Diddymu Pwyllgor Ymgynghorol dros Gymru (Asiantaeth yr Amgylchedd) 2002
Wedi'i wneud 21 Mawrth 2002
Yn dod i rym 1 Ebrill 2002

GAN FOD adran 28(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, (“Deddf 1998”), a rhan 1 o Atodlen 4 iddi yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) y pwer i drosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol swyddogaethau statudol y Pwyllgor (“y Pwyllgor Ymgynghorol”) a sefydlwyd o dan adran 11(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (“Deddf 1995”);
A CHAN FOD y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn bod swyddogaethau statudol y Pwyllgor Ymgynghorol, sef swyddogaethau cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â materion sy'n effeithio ar weithredu swyddogaethau Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru, neu sy'n gysylltiedig â hwy, yn swyddogaethau sy'n gofyn am i gyngor gael ei roi i'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun, ac felly yn syrthio y tu mewn i adran 28(2)(a) o Ddeddf 1998;

YN AWR FELLY mae'r Cynulliad Cenedlaethol, trwy arfer ei bwerau o dan adran 28 o Ddeddf 1998 a rhan 1 o Atodlen 4 iddi, trwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diddymu Pwyllgor Ymgynghorol dros Gymru (Asiantaeth yr Amgylchedd) 2002.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2002.
(3) Yny Gorchymyn hwn ystyr “y Pwyllgor Ymgynghorol” (“the Advisory Committee”) yw'r pwyllgor a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf 1995 i gynghori ynglyn â materion sy'n effeithio ar weithredu swyddogaethau Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru neu sydd fel arall yn gysylltiedig â hwy.
(4) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Diddymu'r Pwyllgor Ymgynghorol a darpariaethau ôl-ddilynol
2 

(1) Diddymir y Pwyllgor Ymgynghorol a'i swyddogaethau.
(2) Diddymir adran 11 o Ddeddf 1995.
(3) Trosglwyddir i'r Cynulliad Cenedlaethol yr holl eiddo a hawliau sy'n eiddo i'r Pwyllgor Ymgynghorol ac unrhyw rwymedigaethau sydd ar y Pwyllgor Ymgynghorol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mawrth 2002